Afon Yangtze yn her newydd i anturiaethwr o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Ash DykesFfynhonnell y llun, Ash Dykes

Mae anturiaethwr o ogledd Cymru wedi gosod her newydd i'w hun, gan geisio bod y person cyntaf erioed i gerdded ar hyd Afon Yangtze yn China.

Mae Ash Dykes o Fae Colwyn yn dweud y bydd hi'n cymryd tua blwyddyn iddo gwblhau'r daith 4,000 milltir o orllewin i ddwyrain China.

Bydd yn dechrau ar yr her ym mis Mehefin, gan deithio ar droed yn unig.

Yr Yangtze yw'r trydedd afon hiraf yn y byd - y tu ôl i'r Amazon a'r Nîl - a'r afon hiraf sy'n teithio trwy un wlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Afon Yangtze yn llifo trwy fynyddoedd rhewlif, coedwigoedd a dinasoedd mawr

Nid hon yw'r her gyntaf i'r anturiaethwr osod i'w hun - ef oedd y person cyntaf i deithio hyd Mongolia ar ei ben ei hun yn 2014.

Flwyddyn yn ddiweddarach ef oedd y person cyntaf i gerdded hyd Madagascar - her fu bron yn un angheuol wedi iddo ddioddef â malaria ar y ffordd.

Bydd Mr Dykes yn dechrau ei daith ym mynyddoedd Tibet, cyn teithio ar hyd rhewlif, coedwigoedd a dinasoedd mawr fel Shanghai i gyrraedd ceg yr afon ar arfordir dwyreiniol y wlad.

Yn ogystal â'r tirwedd, mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo ddelio â bywyd gwyllt China, sy'n cynnwys eirth, bleiddiau a nadroedd.

Ffynhonnell y llun, Ash Dykes
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwblhaodd Ash Dykes ei daith ar hyd Madagascar ym mis Chwefror 2016

"Rwy'n gwybod y bydd China yn fy ngwthio i'r eithaf yn gorfforol a meddyliol, ond fe fyddai mor barod â phosib i wynebu'r heriau y bydd y tirwedd amrywiol yn taflu ata i," meddai wrth edrych ymlaen at yr her.

"Rydw i wir yn mynd i ganol 'nunlle, ond mae gen i wastad hyder y bydd fy hyfforddiant, fy nghryfder meddyliol a charedigrwydd pobl ar hyd y ffordd yn fy nghael i drwyddo."