Cam ymlaen i gynlluniau safle hanesyddol Yr Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd
Y cynlluniau newydd ar gyfer Bryn y BeiliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r bwthyn ar waelod Bryn y Beili'n cael ei drawsnewid

Mae menter i adnewyddu safle hanesyddol amlwg yn yr Wyddgrug gam yn nes at gael ei gwireddu.

Yr wythnos diwethaf, cafodd cais am grant o dros £1m i drawsnewid Bryn y Beili ei yrru at y loteri.

Daw wedi i'r cynlluniau - sy'n cynnwys codi llwyfan ar gyfer digwyddiadau a chreu gofod cymunedol - gael sêl bendith swyddogion cynllunio ym mis Chwefror.

Yn wreiddiol, roedd castell Normanaidd ar Fryn y Beili, sydd wedi cael ei feddiannu gan y Cymry a'r Saeson dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bob Gaffey eisiau denu pobl i'r Wyddgrug gyda chynlluniau Bryn y Beili

Mae'r cynlluniau'n canolbwyntio ar drawsnewid gwaelodion Bryn y Beili, gan adeiladu lôn newydd a throi llawr gwaelod y bwthyn yn ofod cymunedol ar gyfer arddangosfeydd a gweithgareddau eraill.

Byddai llwyfan yn cael ei godi yn uwch fyny'r bryn, sydd eisoes yn cynnal gŵyl flynyddol.

Mae'r maer, Bob Gaffey, yn gobeithio y bydd yn gadael i'r Wyddgrug gynnal digwyddiadau i ddenu pobl i'r dref.

"Ar hyn o bryd, dydy [Bryn y Beili] ddim yn cael ei ddefnyddio llawer," meddai.

"Ond 'dan ni'n gobeithio bydd pobl yn dod o bell i weld petha' yn fama, a phobl leol yn defnyddio'r lle hefyd."

'Digwyddiadau o fri'

Cyngor Tref yr Wyddgrug, Cyngor Sir y Fflint a grŵp cymunedol Cyfeillion Bryn y Beili sy'n gyfrifol am y cynlluniau, sy'n ddibynnol ar grant o fwy na £1m gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Dywedodd Gwenno Jones o'r cyngor sir y gallai wneud "gwahaniaeth mawr".

"Mae o'n mynd i fod yn rywle lle allwn ni roi digwyddiadau o fri ymlaen, mewn sefyllfa sydd mor ddeiniadol.

"Mae pobl yn mynd i eisiau dod yna i weld yr hanes, yn ogystal â gweld be' sy'n digwydd yna."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cerrig yr Orsedd ar Fryn y Beili wedi i'r Wyddgrug gynnal Eisteddfod yn 1923

Yn lleol, mae rhai wedi codi pryderon am effaith y prosiect ar lefydd parcio yn y dref.

Dywedodd Eira Hughes o Gyfeillion Bryn y Beili bod maint cymharol fach y newid yn golygu bod digon o le parcio yno'n barod.

"Fydd o ddim yn atyniad mawr," meddai.

"Mae gynnon ni, yn ffodus iawn, faes parcio go sylweddol yn agos iddo fo, yn Griffiths Square."

Ychwanegodd y byddai'r bryn ar ei newydd wedd yn "gaffaeliad i'r dref".

Penderfyniad ym mis Mehefin

Mae disgwyl i Gronfa Treftadaeth y Loteri benderfynu a fyddan nhw'n rhoi'r grant i'r prosiect ym mis Mehefin.

Os gaiff y grant ei gymeradwyo, bydd yn rhaid codi tua £100,000 ychwanegol yn lleol. Mae'r gwaith o ddod o hyd i'r arian hwnnw eisoes wedi cychwyn, a thua hanner y swm wedi'i gasglu'n barod.