Buddsoddiad o £5.5m i dri o dirweddau mwyaf hardd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dyffryn DyfrdwyFfynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Disgrifiad o’r llun,

Nod cynllun Ein Tirlun Darluniadwy yw diogelu tirwedd Dyffryn Dyfrdwy

Mae tri o dirweddau mwyaf hardd Cymru wedi derbyn bron i £5.5m o fuddsoddiad gan y Loteri Genedlaethol.

Fe ddywedon nhw y bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng Gwastadeddau Gwent, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, yn ogystal â Chwm Elan.

Y gobaith yw y bydd y buddsoddiad yn creu bron i 4,000 o gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli.

Dywedodd pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, Richard Bellamy: "Mae ein tirweddau rhagorol yn diffinio gwir gymeriad Cymru ac maen nhw'n gymaint o ran o bwy ydyn ni â'n hanes, ein hiaith a'n rygbi.

"Mae'n rhaid gofalu am y lleoedd bregus hyn ar gyfer y dyfodol, ac os rheolir y rhain yn ofalus, gallant hefyd chwarae rôl hanfodol o ran tyfu economi ein gwlad."

Ffynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwastadeddau Gwent yn cwmpasu ardal 163 cilometr sgwâr yn ne Cymru

Gwastadeddau Gwent fydd yn derbyn y siâr fwyaf o'r arian - dros £2.5m - ar gyfer prosiect Partneriaeth Gwastadeddau Byw, sydd â'r nod o warchod bywyd gwyllt yr ardal.

Bydd Cwm Elan, sy'n denu 154,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, yn derbyn dros £1.6m.

Fe fydd Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn derbyn ychydig dros £1.3m ar gyfer cynllun Ein Tirlun Darluniadwy, fydd yn diogelu tirwedd Dyffryn Dyfrdwy, Traphont Ddŵr Pontcysyllte a'r gamlas sy'n safle treftadaeth y byd.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cwm Elan wrth wraidd Mynyddoedd Cambria yng nghanolbarth Cymru