Rheoleiddwyr i ymchwilio i'r problemau dŵr wedi'r eira
- Cyhoeddwyd
Mae rheoleiddiwr y diwydiant dŵr yng Nghymru a Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yn ymchwilio i geisio darganfod pam fod cyflenwadau wedi cael eu torri i filoedd o gartrefi yn dilyn y tywydd oer diweddar.
Doedd dim cyflenwadau i fusnesau a chartrefi am ddyddiau ar ddechrau mis Mawrth ar ôl i bibellau dŵr fyrstio wrth i'r eira a'r rhew ddadmer.
Bydd Ofwat yn edrych ar ba mor barod oedd cwmnïau a pha gymorth a gafodd ei roi maes o law i gwsmeriaid.
Yn ystod y trafferthion, dywedodd y rheoleiddiwr bod cwmnïau "wedi methu" eu cwsmeriaid.
Fe gollodd rhyw 3,000 o gartrefi eu cyflenwadau dŵr yng Nghymru, ac roedd yna oedi cyn i boteli dŵr gyrraedd rhai mannau.
Roedd rhai cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog yng Ngwynedd, Pencader yn Sir Gâr, Treletert yn Sir Benfro, Llandysul, Talgarreg a Synod Inn yng Ngheredigion heb ddŵr am ddyddiau cyn i bibelli gael eu trwsio.
Dywedodd Prif Weithredwr Ofwat, Rachel Fletcher bod y rheoleiddiwr yn disgwyl i gwmnïau dalu iawndal yn "gyflym ac yn ddi-ffwdan" i gwsmeriaid.
Bydd y rheoleiddiwr yn derbyn tystiolaeth oddi wrth ddarparwyr a chwsmeriaid wrth baratoi'r adolygiad.
"Mae bod heb wasanaeth cyhoeddus mor allweddol â dŵr am ddyddiau yn gallu achosi pryder, yn enwedig i bobl sydd mewn amgylchiadau bregus," meddai Ms Fletcher.
Os fydd unrhyw dystiolaeth yn dod i'r amlwg fod cwmnïau wedi methu yn eu goblygiadau statudol neu amodau eu trwydded, fe allen nhw wynebu cosbau, meddai Ofwat.
Mae disgwyl i ganlyniadau'r adolygiad gael eu cyhoeddi erbyn 15 Mehefin.