AS o Gymru yn galw am ohirio Cwpan y Byd Rwsia 2018
- Cyhoeddwyd
Dylai cystadleuaeth Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia gael ei gohirio neu ei chynnal mewn gwlad wahanol, yn ôl AS Llafur o Gymru.
Dywedodd Stephen Kinnock y byddai cynnal y twrnamaint bêl-droed yn y wlad yn arwydd o gyfiawnhad ar gyfer eu hymddygiad.
Daeth ei sylwadau wedi i'r Prif Weinidog Theresa May ddweud ei bod yn "debygol iawn" mai Rwsia oedd yn gyfrifol am wenwyno'r cyn-ysbïwr Sergei Skripal a'i ferch.
Mae Rwsia wedi dweud nad oes sail i'r honiadau hynny.
'Croesi'r llinell'
Cafodd Mr Skripal, 66, a'i ferch Yulia, 33, eu canfod yn anymwybodol ar fainc yng nghanol Caersallog, Wiltshire ar 4 Mawrth, ac maen nhw'n parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.
Daeth cadarnhad ddydd Mawrth bod swyddogion o Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru yn cefnogi'r ymchwiliad yng Nghaersallog.
Dywedodd Mr Kinnock nad oedd yn credu y byddai FIFA yn penderfynu newid lleoliad y gystadleuaeth yn sgil y digwyddiad.
Ond os nad oedd hynny'n digwydd, meddai, byddai'n well petai Lloegr yn penderfynu peidio cymryd rhan o gwbl.
"Er nad yw e'n realistig, dwi'n meddwl y byddai'n llawer gwell gweithredu ar y cyd gyda FIFA, gan ystyried hyd yn oed gohirio Cwpan y Byd neu ei chynnal mewn gwlad wahanol," meddai.
"Dwi'n gwybod fod hyn yn swnio'n annhebygol gan nad yw FIFA yn sefydliad gwleidyddol, ond dwi'n meddwl fod hyn yn croesi'r llinell."
Ychwanegodd Mr Kinnock, oedd yn arfer gweithio i'r Cyngor Prydeinig yn Rwsia, y dylai "pob opsiwn fod ar y bwrdd".
"Petai ni jyst yn tynnu 'nôl ein hunain... yn yr achos yma bod tîm Lloegr yn tynnu 'nôl, dwi ddim yn meddwl mai dyna fyddai cweit y ffordd orau o wneud pethau," meddai.
"Ond byddai camau wedi'u cydlynu ar draws FIFA, byddai hynny'n cael ei deimlo yn Rwsia, a dwi'n meddwl bod rhywbeth difrifol wedi digwydd ac mae angen ymateb difrifol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018