'Pryderu mwy am godi honiadau bwlio ac aflonyddu'

  • Cyhoeddwyd
Carolyn Harris a Julie Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carolyn Harris (chwith) a Julie Morgan yn cystadlu i fod yn ddirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru

Mae pryder fod pobl yng Nghymru yn poeni fwy am godi honiadau o fwlio ac aflonyddu yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, yn ôl AC Llafur.

Mewn ymateb i gwestiwn yn gofyn a oedd "diwylliant o gadw'n ddistaw" yn bodoli, dywedodd Julie Morgan ei bod yn poeni y gallai pobl "fod yn ofni dweud unrhyw beth oherwydd y goblygiadau".

Ychwanegodd Carolyn Harris AS y byddai'n "drychinebus" petai hynny'n wir.

Roedd y ddwy, sy'n cystadlu i fod yn ddiprwy arweinydd nesaf Llafur Cymru, yn siarad ar raglen Sharp End ITV Cymru.

'Gwarchod pawb'

Fe ofynnodd y cyflwynydd Adrian Masters wrthyn nhw a oedd "beth sydd wedi digwydd yn sgil marwolaeth Carl Sargeant" yn atal pobl rhag codi honiadau o fwlio ac aflonyddu.

Yn ei hymateb dywedodd Julie Morgan, AC Gogledd Caerdydd: "Dwi'n meddwl fod perygl fod hynny'n wir.

"Yn amlwg rydyn ni gyd wedi torri'n calonnau oherwydd beth ddigwyddodd i Carl.

"A dwi wir yn poeni y gallai pobl fod ag ofn dweud unrhyw beth oherwydd y goblygiadau.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw bedwar diwrnod wedi iddo golli ei swydd yn y cabinet

"Dwi ddim yn gwybod a yw hynny wedi digwydd, dwi'n ofni ei fod wedi digwydd ond dwi ddim yn gwybod.

"Ond dwi wir yn meddwl fod angen aros nes i'r ymchwiliadau yma ddigwydd i beth ddigwyddodd a phenderfynu wedyn beth 'dyn ni'n ei wneud."

Wrth ymateb i'r un cwestiwn dywedodd Carolyn Harris. AS Dwyrain Abertawe: "Os oes unrhyw un wedi cael eu haflonyddu neu eu bwlio neu beth bynnag mae'n rhaid i chi fod yn gyfforddus i siarad mas.

"Dyna pam dwi'n dweud ei bod hi mor bwysig fod pawb yn cael eu gwarchod - y rheiny sy'n cael eu cyhuddo, a'r dioddefwyr."

'Beio dioddefwyr'

Cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth Cymru a'i wahardd o'r blaid Lafur ym mis Tachwedd yn dilyn honiadau yr oedd yn eu gwadu o ymddygiad amhriodol gyda menywod.

Cafodd ei ganfod yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach, a'r gred yw ei fod wedi lladd ei hun.

Yr wythnos diwethaf, mewn araith ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod ymateb wedi bod yn erbyn menywod sydd wedi siarad am aflonyddu.

"Dwi wedi gweld sut mae'r ymateb wedi bod. Mae'n hyll," meddai.

"Dwi wedi bod yn dyst i ymgyrchoedd a damcaniaethu cynllwyngar, beio dioddefwyr a thriniaeth afiach tuag at ferched sy'n codi'u llais," meddai.