Rhybudd am 'bwysau digyffelyb' unedau gofal dwys Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yw'r ysbyty mwyaf yng Nghymru

Mae BBC Cymru ar ddeall bod ysbyty mwyaf Cymru'n wynebu anawsterau difrifol wrth geisio gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael.

Daw wedi adroddiadau o "bwysau digyffelyb" ar hyd dau o safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Roedd y sefyllfa mor ddifrifol nes i apêl gael ei wneud i fyrddau iechyd cyfagos ddod i'w cynorthwyo i ofalu am gleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud ei fod wedi "gweld galw eithriadol am wasanaethau" a bod staff yn ymateb drwy "weithio'n ddiflino".

Diffyg lle

Mewn e-bost sydd wedi'i weld gan BBC Cymru mae Tîm Gofal Dwys Cymru a'r Rhwydwaith Trawma yn dweud eu bod yn gwybod am "bwysau digyffelyb" yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae'n dweud fod y bwrdd iechyd yn delio gyda 48 o gleifion difrifol wael, gyda rhai yn cael eu cadw mewn mannau adfer neu'n cael triniaeth mewn uned gofal dwys cardio - oherwydd diffyg lle mewn unedau gofal dwys.

Mae'r e-bost yn mynd ymlaen i ofyn i fyrddau iechyd cyfagos wneud lle yn eu hysbytai i gleifion o Gaerdydd "er mwyn sicrhau fod yr holl gleifion difrifol wael yn derbyn y gofal priodol".

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysbyty Athrofaol Llandochau hefyd dan "bwysau digyffelyb"

Mewn datganiad mae Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Dr Graham Shortland yn dweud: "Rydym wedi gweld galw eithriadol am ein gwasanaethau dros fis Chwefror ac mae'r pwysau yma wedi parhau i mewn i fis Mawrth.

"O'i gymharu gyda Chwefror 2017, rydym wedi gweld cynnydd o 7% mewn pobl yn mynd i unedau brys a 13% o gynnydd mewn cleifion sydd angen eu hadfywio.

"Hefyd o'r cleifion sy'n ddifrifol wael, mae 'na gynnydd o 15% wedi bod mewn cleifion dros 85 oed. Fe allai'r cleifion yma fod yn wael ac angen gofal arbenigol."

Ychwanegodd: "Yn ystod y cyfnod prysur yma rydym wedi bod mewn cysylltiad cyson gyda'r rhwydwaith gofal dwys er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio unrhyw gapasiti ychwanegol ar gyfer ein cleifion."

Mae gwasanaethau rheng flaen y GIG ar hyd Cymru wedi bod dan bwysau'n ddiweddar yn dilyn tywydd garw, ac maent wedi gweld cynnydd mewn cleifion difrifol wael.

Ond mae pryderon ynglŷn â diffyg gwelyau gofal dwys yng Nghymru.

Mewn adroddiad wythnos yn ôl, fe wnaeth meddygon gofal dwys yng Nghymru rybuddio fod unedau wedi cyrraedd yr uchafswm ac weithiau dros y capasiti.

Roedd yr adroddiad wedi ei seilio ar arolwg gan feddygon gofal dwys, gyda'r rhai yn gweithio yng Nghymru yn amcangyfrif fod y gyfradd pobl i welyau mewn unedau bron yn 100%.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Dr Graham Shortland eu bod wedi gweld galw eithriadol am wasanaethau

Roedd hefyd awgrym fod capasiti mewn rhai unedau yng Nghymru yn uwch na 100% - gyda gwelyau'n cael ei defnyddio ar gyfer defnydd tymor byr.

Y lefel uchaf sy'n cael ei awgrymu ar gyfer gofal diogel ac effeithlon mewn unedau gofal dwys yw 85%.

Mae'r GIG yng Nghymru gyda llai o welyau ar gyfer gofal dwys ar gyfer maint y boblogaeth na gweddill y DU, a llai o lawer na nifer o wledydd Ewrop.

'Pwysau eithriadol'

Fe wnaeth adroddiad gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru yr haf diwethaf ddarganfod fod "unedau gofal dwys ar hyd Cymru dan bwysau eithriadol o gynnydd yn y galw oherwydd diffyg llefydd".

Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos fod y sefyllfa wedi gwaethygu gan fod cleifion oedd ddigon iach i gael eu symud i wardiau yn parhau i feddiannu'r gwelyau.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi gwelliannau mewn ardaloedd eraill, gyda chyfradd byw yn cynyddu a niferoedd ail-gyflwyno i unedau gofal dwys yn gostwng.

Roedd hefyd gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion oedd yn cael eu rhyddhau o'r unedau'n rhy gynnar.