Dim penderfyniad eto ar ffawd Neil McEvoy
- Cyhoeddwyd
Does dim penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol Neil McEvoy fel aelod o Blaid Cymru.
Fe gafodd yr AC annibynnol ei ddiarddel o grŵp y blaid yn y Cynulliad ym mis Ionawr oherwydd yr hyn y gwnaeth llefarydd ei ddisgrifio fel "methiant ymddiriedaeth na ellir ei adfer".
Dywedodd Mr McEvoy ei fod wedi "cael ei orfodi" i adael y grŵp ac y byddai'n parhau i gynrychioli'r bobl wnaeth ei ethol.
Yn dilyn pum awr o drafod mewn gwrandawiad disgyblu ddydd Iau, ni chafodd penderfyniad ei wneud.
"Mae'r trafodaethau'n mynd rhagddynt. Ni allwn ddweud mwy ar y pwynt yma," meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.
Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd Mr McEvoy: "Does dim penderfyniad wedi'i wneud hyd yma. Bydd hynny'n cael ei wneud cyn gynted â phosib."
Fel mae pethau'n sefyll, mae'r AC Canol De Cymru yn dal yn aelod o Blaid Cymru, ond mae'r gwrandawiad yn delio â chwynion am ei ymddygiad.
Wedi newid i reolau'r blaid, does dim cynrychiolaeth gyfreithiol ar ran y naill ochr na'r llall.
Mae Plaid Cymru wedi trosglwyddo cwynion pellach i gomisiynydd safonau'r Cynulliad sydd heb benderfynu eto a fydd 'na ymchwiliad ffurfiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018