'Rhyddhad' gyrrwr na chafodd unrhyw un anaf mewn damwain
- Cyhoeddwyd
Mae pensiynwr wedi mynegi ei ryddhad na chafodd unrhyw un eu hanafu pan yrrodd ei gar i mewn i lawr cyntaf tŷ ym Mhen Llŷn.
Daeth car Geoff Ludden i stop yn ystafell 'molchi'r cartref ym Mhwllheli ym mis Medi y llynedd.
Dywedodd y gŵr 69 oed fod y ddamwain wedi digwydd wedi iddo roi ei droed ar y sbardun mewn camgymeriad, pan oedd yn bwriadu gwasgu'r brêc.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher cafodd Mr Ludden ei wahardd rhag gyrru am dri mis wedi iddo gyfaddef ei fod wedi gyrru'n esgeulus.
Cafodd orchymyn hefyd i dalu £365.
"Yn amlwg, rwy'n difaru'r ddamwain a'r effaith y gallai fod wedi ei gael ar bobl eraill," meddai Mr Ludden wrth raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales.
"Roedd hi'n 23:00 ac fe es i mewn i'r wal. Roedd gwraig y tŷ newydd adael yr ystafell ymolchi wrth lwc. Cafodd ei gŵr ei daflu allan o'r gwely oherwydd nerth yr ergyd."
Disgrifiodd Ludden sut yr oedd yn teithio i lawr rhiw serth yn y tywyllwch, a'i fod yn meddwl ei fod yn arafu.
Fodd bynnag, oherwydd bod ei droed ar y sbardun hefyd, roedd mewn gwirionedd yn cyflymu.
"Fe es i drwy ddau rwystr ac i mewn i'r wal, edrychais i lawr a gweld gofod 20 troedfedd oddi tanna i," ychwanegodd.
"Roeddwn i'n hongian rhwng y llwybr a'r tŷ."
Dywedodd Ludden fod ganddo gleisiau drosto a'i fod mewn sioc am ddyddiau, ond ei fod yn ddiolchgar na chafodd unrhyw un ei anafu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017