Gwahardd gyrrwr ar ôl taro llawr cyntaf tŷ ym Mhwllheli

  • Cyhoeddwyd
CarFfynhonnell y llun, Danny Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe darodd y car yr ystafell 'molchi ar y llawr cyntaf

Mae pensiynwr o Wynedd wnaeth golli rheolaeth ar ei gar gan chwalu ystafell 'molchi ar lawr cyntaf tŷ ym Mhwllheli wedi cael ei wahardd rhag gyrru.

Dywedodd ynadon wrth Geoff Ludden, 69 o Forfa Nefyn, fod y drosedd yn un difrifol a bod yn rhaid ei wahardd er gwaethaf effaith hynny arno ef a'i fab anabl.

Clywodd y llys na chafodd y bobl oedd yn y tŷ eu hanafu yn y digwyddiad ym mis Medi y llynedd ond bod y gwasanaethau brys wedi gorfod achub y pensiynwr o'i gar.

Cafodd Ludden ei wahardd rhag gyrru am dri mis, a bydd yn rhaid iddo dalu dirwyon a chostau o £365.

Dywedodd Shaun Bartlett-Evans ar ran yr erlyniad fod y car Peugeot awtomatig wedi ei addasu'n arbennig ar gyfer ei fab sydd â pharlys yr ymennydd.

Disgrifiad,

Dywedodd Danny Jones fod ei bartner yn lwcus i fod yn fyw ar ôl y digwyddiad

Dywedodd y diffynnydd ei fod yn ceisio troi ei gar pan gollodd reolaeth, a bod ei droed dde yn rhannol ar y brêc a'r ysbardun ar yr un pryd.

Ar ôl y gwrthdrawiad dywedodd iddo agor y drws a gweld fod y car 20 troedfedd uwchben y llawr.

"Fe wnes i roi fy ngwregys yn ôl arno ac aros am y gwasanaethau brys," meddai wrth Ynadon Sir y Fflint.

"Rhaid i mi ddweud eu bod nhw wedi bod yn wych."

Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth y car trwy ffens cyn taro yn erbyn cefn y tŷ

Fe wnaeth Ludden ofyn i'r ynadon beidio ei wahardd oherwydd yr effaith byddai'n ei gael ei ar fab.

Dywedodd ei fod wedi gyrru 5,000 o filltiroedd ers y digwyddiad heb unrhyw broblem.

Clywodd y llys fod y DVLA wedi rhoi gwaharddiad ar drwydded Ludden yn syth wedi'r ddamwain, ond dywedodd y pensiynwr nad oedd wedi cael gwybod am hyn.

Yn syth wedi'r gwrthdrawiad dywedodd Danny Jones, sy'n byw yn y tŷ. bod ei bartner yn lwcus i fod yn fyw ar ôl i'r car chwalu'r ystafell ymolchi.

Dywedodd fod ei bartner Abbey Claybrook wedi bod yn yr ystafell eiliadau'n unig cyn y gwrthdrawiad.

Roedd eu babi 15 mis oed hefyd yn y tŷ ar y pryd.