Ysgrifennydd yn gwrthod cyhoeddi adroddiad Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae pennaeth y gwasanaeth sifil wedi gwrthod cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei ryddhau i'r cyfryngau.

Dywedodd Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Sharon Morgan y byddai cyhoeddi'r adroddiad yn cael effaith ar ymchwiliadau yn y dyfodol.

Cafodd cais i gyhoeddi'r adroddiad ei wrthod er gwaethaf pleidlais yn y Cynulliad yn galw am ryddhau fersiwn wedi ei olygu.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn siomedig tu hwnt â'r penderfyniad.

'Esgusodion'

Roedd yr ymchwiliad i ryddhau'r wybodaeth yn un o dri gafodd eu gorchymyn wedi diswyddiad a marwolaeth Mr Sargeant.

Ei gasgliad oedd nad oedd tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau gwybodaeth o flaen llaw am ad-drefnu'r cabinet a diswyddiad Mr Sargeant yn answyddogol.

Ond fe gafodd y casgliad ei gwestiynu gan y Ceidwadwyr, oedd yn galw am ryddhau fersiwn o'r adroddiad wedi ei olygu.

andrew rt davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew RT Davies wedi dweud bod penderfyniad yr ysgrifennydd parhaol yn "annerbyniol"

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gofyn i Ms Morgan roi ystyriaeth bellach i ryddhau'r adroddiad.

Ond dywedodd Ms Morgan: "Nid wyf yn credu ei fod yn briodol i ryddhau'r adroddiad, naill ai yn llawn neu ar ffurf wedi ei addasu, oherwydd yr oblygiadau i ymchwiliadau yn y dyfodol."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Mae hyn yn annerbyniol ac yn siomedig tu hwnt.

"Roedd dymuniad y Cynulliad Cenedlaethol yn glir ac mae'r esgusodion am beidio cyhoeddi'r adroddiad yn wan ar y gorau..."

"Yr hira' mae hyn yn parhau yna y mwyaf o ddifrod sy'n cael ei wneud i Lywodraeth Cymru.

"Dylid peidio atal ein prosesau democrataidd fel hyn yn enwedig pan fo materion o bwys cyhoeddus yn y fantol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am wneud sylw.