Rhybudd oren o eira dros nos gan y Swyddfa Dywydd

  • Cyhoeddwyd
eiraFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai eira achosi trafferthion unwaith eto, gyda rhagolygon y gallai at 10cm o eira ddisgyn mewn ardaloedd deheuol nos Sadwrn a bore Sul.

Mae rhybudd oren wedi ei gyhoeddi rhwng hanner nos, nos Sadwrn a 18:00 ddydd Sul.

Fe allai'r tywydd wneud amodau gyrru'n anodd yn ogystal ag effeithio ar gyflenwad pŵer mewn rhai ardaloedd, ond does dim disgwyl iddo fod mor ddifrifol â'r eira a welwyd ledled Cymru ddechrau'r mis.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd oren y Swyddfa Dywydd yn y de-ddwyrain yn parhau tan 18:00 ddydd Sul

Mae rhai digwyddiadau ar gyfer dydd Sul eisoes wedi eu canslo.

Cyhoeddodd trefnwyr hanner marathon Casnewydd na fydd y ras yn mynd yn ei blaen, a hynny am yr eildro, wedi iddyn nhw orfod canslo o ganlyniad i'r eira bythefnos yn ôl.

Fe welodd rhai ardaloedd gawodydd ysgafn o eira ddydd Sadwrn, gan gynnwys Casnewydd, Caerdydd, Wrecsam a Chaergybi ar Ynys Môn.

Trafferthion

Cafodd rhai ffyrdd eu cau ddydd Sadwrn wrth i goed ddisgyn mewn gwyntoedd cryfion.

Cafodd y B4355 rhwng Bugeildy a Threfyclo ym Mhowys ei chau wedi i goeden ddisgyn, gan ddod â cheblau BT i lawr gyda hi.

Mae'r ffordd A465 rhwng Brynmawr a Gilwern ar gau ar gyfer gwaith ffordd, ac mae traffig wedi ei ddargyfeirio i'r B4560 ond rhybuddiodd yr heddlu fod eira a rhew'n achosi problemau ar y ffordd honno.

Mae'r cyngor wedi cael casi i raeanu'r ardal.

Cafodd coeden ei chlirio'n gynharach ar yr A485 rhwng Pontarsais yn Sir Gaerfyrddin.

Mae 'na gyfyngder cyflymdra hefyd ar Bont Britannia rhwng Gwynedd a Môn, ac ar Bont Hafren yr M48 yn y de.