Heddlu yn dod o hyd i blentyn mewn car yn Afon Teifi

  • Cyhoeddwyd
Aberteifi

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod wedi achub plentyn o gar yn Afon Teifi ar ôl apêl ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd sawl sylw ar y cyfryngau cymdeithasol gan fam yn dweud fod rhywun wedi dwyn ei char yn Aberteifi gyda'i phlentyn tair oed ynddo ar y pryd.

Dywed yr heddlu iddynt ddod o hyd i'r car yn Afon Teifi.

Dywed datganiad ar ran yr heddlu: "Mae plentyn wedi ei gymryd o'r car ac mae'n derbyn cymorth meddygol ar hyn o bryd.

Disgrifiad,

Fe ddiolchodd Cynghorydd Aberteifi, Catrin Miles i'r gwasanaethau brys am eu hymateb i'r digwyddiad yn Afon Teifi

"Diolch i bawb am eu cefnogaeth."

Mae Ambiwlans Awyr Cymru bellach wedi cadarnhau fod y plentyn wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond does dim manylion pellach am ei gyflwr.

Roedd y gwasanaethau brys, gan gynnwys hofrennydd o RAF Sain Tathan, a badau Gwylwyr y Glannau yng Ngwbert ac Aberteifi, yn rhan o'r chwilio ar hyd yr afon.

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn galwad tua 15:30 ddydd Llun, gyda'r heddlu yn gwneud apêl am wybodaeth am gar Mini lliw arian yn y dref.

Roedd negeseuon wedi ymddangos ar y gwefannau cymdeithasol gan ddynes oedd yn honni mai hi oedd mam y ferch tair oed gan apelio am gymorth.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau fod y chwilio, gan arweinyddiaeth yr heddlu, yn parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd presenoldeb yr heddlu'n parhau yn Aberteifi nos Lun