Merch ddwy oed wedi marw mewn car yn Afon Teifi

  • Cyhoeddwyd
Kiara MooreFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai Kiara Moore wedi bod yn dair oed yr wythnos nesaf

Mae merch fach gafodd ei darganfod mewn car yn Afon Teifi, Aberteifi, brynhawn Llun, wedi marw.

Fe gadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod Kiara Moore, dwy oed, wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ar ôl cael ei hedfan yno.

Brynhawn Llun, roedd sawl sylw ar gyfryngau cymdeithasol gan fam yn dweud fod rhywun wedi dwyn ei char yn Aberteifi gyda phlentyn ynddo ar y pryd.

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi cadarnhau nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Disgrifiad,

Dywedodd Catrin Miles, sy'n gynghorydd yn Aberteifi, ei fod yn "newyddion torcalonnus" i'r dref

Yn ystod oriau mân fore Mawrth, fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys ddatganiad ar wefannau cymdeithasol.

"Yn drist iawn, fe allwn ni gadarnhau fod meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, wedi darganfod bod Kiara Moore, 2 oed, wedi marw", meddai'r datganiad.

"Mae swyddogion arbennigol yn cynorthwyo'r teulu."

Ffynhonnell y llun, Jem Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jet Moore, tad Kiara, wedi rhannu lluniau ohoni gyda'i mam ar ei dudalen Facebook

Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Teyrnged o flodau i Kiara ger yr Afon Teifi yn Aberteifi

Ar ei dudalen Facebook, mae tad Kiara, Jet Moore, wedi diolch i bawb am eu holl gymorth brynhawn Llun.

"Mae diolch enfawr i'r swyddogion a neidiodd i'r afon a gweddill y gwasanaethau brys am wneud cymaint," meddai'r datganiad.

"Yn anffodus, cafodd Kiara fywyd anhygoel, ond un byr."

Mae'r heddlu yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad ac yn apelio am unrhyw dystion a welodd y car Mini lliw arian yn mynd i fewn i'r afon rhwng 15:30 a 16:50 brynhawn Llun.

Disgrifiad,

Pobl Aberteifi yn ymateb i'r newyddion am farwolaeth merch fach dwy oed yn Afon Teifi

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r gwasanaethau brys yn chwilio ar hyd Afon Teifi yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll mewn car

Ar Facebook fore Mawrth, fe wnaeth Mr Moore geisio egluro'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd bod Kiara a'i mam wedi mynd i'r car i ddod adre, cyn i'r fam orfod dychwelyd i'r swyddfa gan bod ei cherdyn banc wedi torri a'i bod angen arian.

Pan ddychwelodd at y car, roedd wedi diflannu.

Ffynhonnell y llun, Facebook/Jet Moore
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Kiara wedi rhoi'r neges yma ar Facebook fore Mawrth

Ychwanegodd Mr Moore deyrnged i Kiara, gan ddweud: "Roedd yn ferch fach eithriadol o hapus, ac fe gafodd fyw bywyd llawn antur a hwyl gobeithio.

"Fe gyflawnodd mwy na llawer o bobl - wedi bod yn sgïo ddwywaith... padlo yn Yr Alban a chwarae ar bob traeth y gallen ni.

"Roedd ganddi deulu cariadus ac roedd yn ein gwneud ni i gyd yn llawen.

"Ein llysenw iddi oedd RAR RAR ac roedden yn ei charu gymaint."