Cwpan China: Cymru'n colli yn y ffeinal

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau Cymru v Uruguay (darlledwyd ar S4C)

Cymru 0-1 Uruguay

Fe gadwodd y rheolwr Ryan Giggs ei ffydd gyda'r 11 a ddechreuodd y gêm - a'r fuddugoliaeth ysgubol - yn erbyn China yn y rownd gynderfynol.

Wrth gwrs roedd pawb yn disgwyl gêm anoddach yn erbyn Uruguay ac felly y profodd hi.

Munud a hanner wedi'r gic gynta' fe darodd Luis Suarez y postyn gydag ergyd o 12 llath.

Ond hanner munud yn ddiweddarach, fe darodd Gareth Bale ergyd o 25 llath a orfododd arbediad gan Muslera yn y gôl i Uruguay.

Gêm agored

Mewn gêm agored dros ben yn y cyfnod cynnar fe gafodd Sam Vokes gyfle da o fewn y pum munud cyntaf, ond aeth ei ergyd o ymyl y cwrt yn syth at y golwr.

Er fod Uruguay yn edrych yn beryglus pan oedd y meddiant ganddyn nhw, Cymru oedd yn creu'r cyfleoedd. Wedi 17 munud daeth rhediad ac ergyd gan Andy King, ond unwaith eto roedd Muslera yn y lle iawn.

Draw i'r pen arall aeth hi eto, a Matias Vecino gafodd gyfle i Uruguay wedi gwaith da gan Suarez cyn tanio heibio'r postyn.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Daeth cyfle gorau'r hanner wedi camgymeriad gan amddiffyn Cymru - doedd pas yn ôl at Hennessey ddim yn ddigon cry' gan roi cyfle i Suarez gipio'r bêl, ond gyda'r gôl yn wag fe darodd Suarez y postyn am yr eildro.

Cyn yr egwyl, fe welson ni'r ergyd gynta' gan Edinson Cavani wedi camgymeriad gan James Chester. Roedd angen arbediad campus gan Wayne Hennessey i ildio'r gic gornel.

O fewn munud, ac roedd Cymru'n ymosod eto - Andy King gyda foli ardderchog o 20 llath a Muslera'r tro hwn yn arbed yn wych.

Roedd un cyfle arall cyn yr egwyl - cic rydd i'r cwrt ac ôl-beniad Gareth Bale yn gorfodi arbediad brys gan golwr Uruguay.

Uruguay ar y blaen

O fewn dau funud i ddechrau'r ail gyfnod, fe gafodd Harry Wilson gynnig o gic rydd aeth yn syth at y golwr cyn i Uruguay danio ergyd y pen arall aeth heibio'r postyn.

Ond yna wedi 49 munud fe ddaeth y gôl i Uruguay. Camgymeriad gan James Chester roddodd y cyfle i Rodriguez groesi ac roedd Cavani ar ben ei hun yn y cwrt chwech gyda'r dasg hawdd o rwydo.

Fe ddylai Cavani fod wedi sgorio un arall o fewn tri munud, ond fe fethodd gyda chynnig hawdd, ac roedd pethau'n dechrau mynd ar chwâl i Gymru.

Rhwyddodd Suarez ar ei drydydd cynnig, ond roedd yn camsefyll o drwch blewyn - rhyddhâd i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Pan ddaeth eilydd i Gymru, roedd yn un annisgwyl wrth i Connor Roberts ddod ymlaen am ei gap cyntaf yn lle Declan John.

Yn fuan wedyn daeth dau hanner cyfle i Gymru - cic rydd gan Gareth Bale i ddechrau, ac yna o'r gic gornel ddaeth o hynny, y bêl yn adlamu o gwmpas y cwrt cosbi, ond heb ddod â chyfle am ergyd glir.

Enw cyfarwydd

Yr eilydd nesa i Gymru oedd Billy Bodin - un arall i ennill ei gap cyntaf, a mab yr enwog Paul Bodin.

Sam Vokes oedd yr un i adael ac yntau yn amlwg wedi blino'n lan. Daeth Lee Evans hefyd ymlaen yn lle Harry Wilson.

Evans gafodd y cynnig nesaf i Gymru gan daro ergyd o 25 llath a wnaeth achosi problemau i Muslera.

Fe wnaeth yr eilyddion wahaniaeth ac roedd Cymru'n dipyn mwy o fygythiad yn y munudau cloi, ond doedd dim yn tycio ac fe ddaliodd Uruguay eu gafael am y fuddugoliaeth.