Rhybudd o berygl ysbwriel ar draeth Llanbedrog, Gwynedd
- Cyhoeddwyd

Y gred yw bod yn sbwriel wedi ei gladdu beth amser yn ôl
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhybuddio pobl sy'n mynd ar lan y môr o'r broblem ysbwriel ar draeth Llanbedrog yng Ngwynedd, ac yn rhybuddio plant i beidio chwarae yno.
Daeth y sbwriel i'r golwg ar ôl i Storm Emma olchi tunelli o dywod o'r traeth, gan ostwng ei uchder o tua dwy droedfedd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth, sydd wedi bod yng ngofal y traeth ers 2000, fod y safle yn cael ei glirio ond "gall hyn gymryd dipyn o amser i'w glirio'n iawn. "
Y gred yw bod y sbwriel wedi ei gladdu flynyddoedd yn ôl ac mae'n cynnwys darnau metal a gwydr wedi eu llosgi.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhybuddio pobl i beidio â cherdded ar y traeth yn droednoeth ac i beidio â gadael i blant chwarae ac i gloddio yn y tywod, hyd nes y bydd nodyn pellach.

Mae'r sbwriel wedi ei gymysgu â thywod ac weithiau yn anodd i'w weld
Mae'r elusen yn amcangyfrif bod tua 250 tunnell o sbwriel, wedi'i gymysgu â thywod, eisoes wedi'i symud oddi ar y traeth gan beiriannau ac maen nhw'n gweithio gyda sefydliadau perthnasol i waredu'r gwastraff yn ddiogel.
Dywedodd Andy Godber, Rheolwr Gweithrediadau Llŷn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol: "Ar yr olwg gyntaf efallai na fydd yn amlwg bod problem yma gan fod y 'sbwriel wedi'i gladdu, ond mae hynny hefyd yn golygu ei fod yn anoddach i fesur gwir raddau'r broblem.
"Rydym yn gobeithio y bydd y tywod yn cael ei ailgyflenwi'n naturiol gan y llanw mewn amser.
"Yn anffodus, mae'r gostyngiad mewn lefelau tywod a llanw'r gwanwyn, yn golygu nad yw'n ddiogel i ni ddychwelyd y cytiau i'r traeth yn Llanbedrog mewn amser ar gyfer y Pasg.
"Rydym yn monitro'r sefyllfa yn ofalus ac yn hysbysu meddianwyr cytiau traeth, ond y flaenoriaeth yw sicrhau diogelwch y cyhoedd."

Dywed yr ymddiriedolaeth eu bod wedi symud tua 250 tunnell o sbwriel, wedi'i gymysgu â thywod,
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2018