Prifysgol Aberystwyth: 100 o swyddi dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ystyried torri un ym mhob wyth swydd yn yr adrannau rheoli a gweinyddol.

Mewn llythyr sydd wedi cael ei weld gan BBC Cymru Fyw, mae'r Is-Ganghellor Elizabeth Treasure yn dweud bod 100 o swyddi llawn amser dan fygythiad, o'r 800 sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Proffesiynol.

Yn ogystal â hynny, y bwriad yw ailstrwythuro'r tîm uwch-reoli, gyda dwy o'r pedair swydd Dirprwy Is-Ganghellor i gael eu torri.

Mae'r llythyr hefyd yn rhybuddio y bydd adolygiad yn digwydd maes o law o bedair adran gwasanaethau arall, gan gynnwys Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr a'r Swyddfa Rhyngwladol.

Dywedodd Elizabeth Treasure fod gan y Brifysgol "fwy o staff cynorthwyol a gweinyddol" o'i gymharu â phrifysgolion o'r un maint â nhw, a bod "rhaid cyrraedd targedau ariannol y Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor y Brifysgol".

Disgrifiad,

Os bydd swyddi'n diflannu fe fydd yn "ergyd eithriadol i Geredigion" meddai'r Ben Lake AS

Ym mis Mai 2017, fe rybuddiodd undeb Unsain bod 150 o swyddi o dan fygythiad ar ôl i'r is-ganghellor ysgrifennu llythyr at staff yn gofyn iddyn nhw ystyried diswyddiadau gwirfoddol.

Cafodd y Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd ei gymeradwyo gan Gyngor y Brifysgol ym mis Ebrill 2017 i leihau costau gweithredu o £11.4m dros ddwy flynedd.

Mae swyddi eisoes wedi eu colli mewn sawl adran academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Theatr, Ffilm a Theledu, IBERS ac yn yr adran addysg.

Mae disgwyl i nifer y darlithwyr yn yr adran Hanes gael ei gwtogi o 16 i 11 hefyd.

Fe gymeradwyodd Cyngor y Brifysgol y cynllun diweddaraf yn ystod cyfarfod ar 23 Mawrth.

Cynigion

  • Ailstrwythuro'r Tîm Rheoli gan leihau nifer y swyddi Dirprwy Is-Ganghellor o bedair i ddwy, a chreu swydd newydd Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol;

  • Byddai hynny'n golygu colli dwy swydd ac arbed £300,000 y flwyddyn;

  • Newid y chwech sefydliad cyfredol i fod yn dri Coleg/Cyfadran, gyda phump o swyddi rheoli yn mynd, gan arbed £382,000 y flwyddyn;

  • Ailstrwythuro'r Gwasanaethau Proffesiynol gan arwain at ostyngiad o 10.5 swydd llawn amser ac arbed £675,000 y flwyddyn.

Nid Prifysgol Aberystwyth ydy'r unig sefydliad addysg uwch sy'n wynebu torri'n ôl ar staff.

Fis Mawrth 2017 fe gyhoeddodd Prifysgol De Cymru bod 139 o swyddi yn y fantol wrth iddyn nhw hefyd geisio delio â chostau cynyddol.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Elizabeth Treasure ar ei gwaith fel Is-Ganghellor yn Ebrill 2017

Mewn neges at staff dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure: "Rwy'n llwyr ddeall yr effaith sydd eisoes wedi ei deimlo wrth i ni geisio cyrraedd y targed arbedion blynyddol o £5.8m yn 2017-18, ac mae'n sylw ni'n nawr yn symud at sut allwn ni sicrhau arbedion o £5.4m yn 2018-19."

"Os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo, fe fyddai'r cynigion uchod yn arwain at ostyngiad o 17.5 swydd rheoli llawn amser, gan arbed £1.357m y flwyddyn.

"Fe fyddai hwn yn arbediad sylweddol, ond fe fyddai dal yn brin iawn o'r nôd o £5.4m.

"Bydd cynigion achos busnes pellach i'r Gwasanaethau Proffesiynol yn cael eu drafftio i gael eu hystyried dros y misoedd nesaf.

"Mae yna botensial y bydd yn rhaid i 100 swydd llawn amser gael eu colli o'r cyfanswm presennol o 800.

'Pryder ac ansicrwydd'

"Ni fydd nifer yr adrannau academaidd yn newid o ganlyniad i'r ailstrwythuro, ond mae'n bosib y bydd yna rai newidiadau o ran lle mae'r endydau adrannol yn eistedd.

"Er bod cydweithwyr wedi bod yn ymwybodol o'r targedau ers iddyn nhw gael eu gosod fis Ebrill diwethaf, rwy'n deall bod y cynigion diweddaraf yn mynd i achosi pryder ac ansicrwydd.

"Mae unigolion sydd â'u swyddi yn y fantol eisoes wedi cael gwybod ac mae cyfnod 45 diwrnod o ymgynghori wedi dechrau."

Mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn am ymateb oddi wrth undeb Unsain.