Pryder am '150 o swyddi' Prifysgol Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
AbersytwythFfynhonnell y llun, Ray Jones/Geograph

Mae diswyddiadau yn "debygol iawn" o gael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ôl is-ganghellor y sefydliad.

Llai na mis ar ôl dechrau ar ei swydd newydd, mae is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth Treasure, wedi ysgrifennu llythyr at staff yn gofyn iddyn nhw ystyried diswyddiadau gwirfoddol.

Yn y llythyr, sydd wedi dod i law BBC Cymru Fyw, mae'r is-ganghellor yn dweud bod angen i'r brifysgol wneud arbedion o fwy na £11m dros y ddwy flynedd nesaf.

Fe ddywedodd undeb UNSAIN bod pryder am ddyfodol "150 o swyddi".

Daw'r newyddion ychydig fisoedd ar ôl i Brifysgol De Cymru gadarnhau bod 139 o swyddi yn cael eu colli, dolen allanol ar draws tri champws yn Nhrefforest, Casnewydd a Chaerdydd.

'Arbedion sylweddol'

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth bod toriadau yn sgil newidiadau a heriau, yn cynnwys cystadleuaeth gynyddol am fyfyrwyr a chostau cynyddol.

"O ganlyniad i'r ffactorau hyn, rydym yn wynebu diffyg yn y gyllideb ac yn darogan bod angen gwneud arbedion sylweddol o £6m yn 2017-18 a £5.4m yn 2018-19," meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Ian Medcalf/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i'r brifysgol wneud arbedion o fwy na £11m dros y ddwy flynedd nesaf

Yn ôl y brifysgol, mae ansicrwydd ariannol pellach o ganlyniad i benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â rheoliadau fisa mwy llym ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Ychwanegodd y llefarydd na fydd newid i gyllidebau prosiectau cyfalaf Campws Arloesi a Menter Aberystwyth, Pantycelyn a'r Hen Goleg.

Doedd y brifysgol ddim am gadarnhau nifer y swyddi, na'r adrannau lle gallai swyddi gael eu colli.

'Amserlen afrealistig'

Mae'r undeb UNSAIN yn cynrychioli tua 300 o staff Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd swyddog ardal Ceredigion, Jeff Baker: "Mae'r brifysgol wedi cwrdd â'r undebau llafur ac o ystyried graddfa'r arbedion sydd eu hangen, rydyn ni'n deall bod hyd at 150 o swyddi mewn perygl."

Ychwanegodd: "Prifysgol Aberystwyth yw un o'r tri chyflogwr mwyaf yn y gorllewin a bydd y golled yma'n cael dylanwad anferthol ar yr economi'n lleol.

"Dylai unrhyw ddiswyddiadau gael eu cyflwyno'n deg ar bob lefel, ac ein gobaith yw sicrhau mesurau ychwanegol i amddiffyn staff cyflogedig sydd ar raddfa is.

"Mae staff ar y cyflogau isaf eisoes wedi cael eu bwrw gan doriadau i'w hawliau pensiwn."

Ychwanegodd y swyddog bod amserlen y brifysgol o gyflwyno'r newidiadau cyn diwedd mis Mai yn "gwbl afrealistig".