Peilot awyren damwain y Fali yn gadael yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
damwain FaliFfynhonnell y llun, Yr Awyrlu Brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Stark anafiadau yn y ddamwain

Mae peilot wedi ei ryddhau o'r ysbyty wyth niwrnod wedi i'r awyren Red Arrows roedd e'n ei hedfan ddisgyn i'r ddaear ar Ynys Mon.

Cafodd yr Awyr-Lefftenant David Stark anafiadau wedi iddo ddianc o'r awyren Hawk cyn iddi daro'r ddaear ar safle'r Awyrlu Brenhinol yn y Fali ar 20 Mawrth.

Bu farw'r Corpral Jonathan Bayliss, peiriannydd 41 oed, yn yr un digwyddiad.

Mae'r ymchwiliad i achos y ddamwain yn parhau.

Mae'r Awyr-Lefftenant Stark wedi bod yn cael triniaeth ysbyty ers hynny.

Ffynhonnell y llun, ROYAL AIR FORCE
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Cpl Jonathan Bayliss, 41 oed, wedi i'r awyren daro'r ddaear yn Y Fali

Mae disgwyl hefyd i rai o awyrennau tîm y Red Arrows ailddechrau hedfan ddydd Mercher am y tro cyntaf ers y digwyddiad.

Fe gafodd holl hediadau'r awyrennau Hawk eu hatal dros dro yn syth wedi'r digwyddiad.

Mae disgwyl y bydd rhai o'r awyrennau yn dychwelyd i Scampton o'r Fali yn ystod y dydd.