Eisteddfod Caerdydd: Geraint Jarman a Bryn Terfel i berfformio
- Cyhoeddwyd
Mae cyngherddau gan Syr Bryn Terfel a Geraint Jarman, cystadleuaeth farddol "fwya'r mileniwm" a chynhyrchiad newydd o hen ffefryn ymysg arlwy rhaglen nos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Am y tro cyntaf, bydd dau berfformiad o gyngerdd agoriadol yr Eisteddfod eleni, gyda Syr Bryn yn serennu mewn biopic o fywyd yr actor a'r canwr, Paul Robeson.
Gyda'r Eisteddfod ym Mae Caerdydd eleni, bydd Geraint Jarman yn rhan o Gig y Pafiliwn ar y nos Fawrth, ynghyd â Band Pres Llareggub a Cherddorfa'r Welsh Pops.
Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan y Mileniwm fydd y pafiliwn, sydd wedi galluogi i'r trefnwyr fod yn "fwy beiddgar ac anturus".
Amserlen y Cyngherddau:
Nos Wener a Nos Sadwrn 3-4 Awst: "Hwn yw fy Mrawd: Paul Robeson - Arwr i Gymru, Arwr i'r Byd" gyda Syr Bryn Terfel ac artistiaid eraill;
Bore Sul 5 Awst: Cymanfa Ganu;
Nos Sul 5 Awst: "Teilwng yw'r Oen" gyda Rebecca Trehearn, Mirain Haf a Daniel Lloyd;
Nos Lun 6 Awst: Y Siwper Stomp - cystadleuaeth farddol yn cynnwys perfformiadau dwys a digri';
Nos Fawrth 7 Awst: Gig y Pafiliwn - Huw Stephens yn cyflwyno noson gyda Geraint Jarman, Band Pres Llareggub ac eraill;
Nos Iau 9 Awst: Pendevig - aelodau o fandiau fel Calan, Mabon a Plu yn cyflwyno cyfuniad gerddoriaeth draddodiadol, jazz, funk a drum'n'bass.
Eisteddfod 'gwahanol ac amgen'
Yn ogystal â'r cyngherddau, bydd cynhyrchiad newydd o sioe Teilwng yw'r Oen yn cael ei llwyfannu nos Sul.
Dyma gyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni, fydd hefyd yn perfformio addasiadau o ganeuon pop Cymraeg wedi'u cyfuno gyda rhai o alawon mwyaf adnabyddus y byd clasurol.
Unawdwyr y noson fydd Rebecca Trehearn, Mirain Haf a Daniel Lloyd.
Ar y nos Lun bydd perfformiadau "dwys a digri" gyda'r gynulleidfa wrth y llyw, wrth i "noson o farddoniaeth, cerddoriaeth ac ambell syrpreis" y Siwper Stomp gyrraedd y pafiliwn.
Newid i fore Sul
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol bydd yr Oedfa fore Sul yn cael ei chynnal yn y Babell Lên, gyda'r Gymanfa Ganu yna'n digwydd yn y pafiliwn.
I gloi'r rhaglen, grŵp Pendevig - aelodau o grwpiau fel Calan, Mabon a Plu - sy'n cyflwyno "cyfuniad unigryw o gerddoriaeth draddodiadol, jazz, funk a drum'n'bass".
Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Elen Elis, ei bod yn "arbennig o falch" o'r rhaglen eleni, a bod lleoliad y pafiliwn "wedi ein galluogi i fod yn fwy beiddgar ac anturus".
"Dyma gyhoeddiad mawr cyntaf Eisteddfod Caerdydd, sydd yn mynd i fod yn ŵyl ychydig yn wahanol i'r arfer oherwydd ei natur arbrofol a threfol," meddai.
"Ond wedi dweud hynny, mae Bae Caerdydd yn lleoliad ardderchog ar gyfer y Maes, a'r cyfuniad o adeiladau eiconig parhaol yr ardal fel Canolfan Mileniwm Cymru, Y Senedd ac Adeilad y Pierhead gyda strwythurau deniadol dros dro fel yurt y Tŷ Gwerin a tepees Caffi Maes B yn mynd i fod yn hynod gyffrous.
"Mae hefyd yn gyfle i ni edrych ar yr Eisteddfod mewn ffordd wahanol ac amgen, ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu pawb i'r Bae ymhen pedwar mis ac i glywed sylwadau a barn ein hymwelwyr ar yr arbrawf."
Bydd tocynnau'r cyngherddau yn mynd ar werth ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol am 10.00, ddydd Mawrth 3 Ebrill.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng 3-11 Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd12 Awst 2017