Archwiliadau pellach am lygredd ar dai yn Amlwch
- Cyhoeddwyd
Mae angen archwiliadau pellach ar 16 o dai gafodd eu hadeiladu ar hen weithfeydd copr, ar ôl i lefelau uchel o fetelau gael eu darganfod yn y pridd.
Cafodd dros 100 o gartrefi ar stad Craig-y-Don yn Amlwch eu profi am lygredd gan waith toddi copr yn yr ardal.
Ni chafodd unrhyw lygredd ei ddarganfod mewn 95 o dai, ond bydd angen archwiliadau pellach ar 16 arall.
Tref Amlwch oedd prif ganolfan cynhyrchu copr y byd yn yr 19eg ganrif, ac roedd gwrtaith hefyd yn cael ei gynhyrchu yno o tua 1889 ymlaen.
Cyn i stad Craig-y-Don gael ei hadeiladu yn yr 1950au roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel 'Gwaith Hill's' - cyfeiriad at waith cemegau Hill's oedd yn creu'r gwrtaith.
'Llygredd yn gymharol fach'
Y gred yw bod saith o'r 16 o gartrefi yn berchen i'r cyngor, a naw mewn dwylo preifat.
Bydd adroddiad ar ganfyddiadau'r archwiliadau'n cael ei drafod gan gynghorwyr ym mis Mai, ond mae Cyngor Tref Amlwch yn annog y cyngor i dalu am waith trwsio ar unwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Myrddin Owens: "Mae angen i ni roi pwysau ar Gyngor Môn i sicrhau eu bod yn talu i drwsio'r difrod, dim ots os yw'r tai yn berchen i'r cyngor neu yn y sector breifat."
Clywodd cynghorwyr bod maint y llygredd yn gymharol fach, ac y byddai'n rhaid i drigolion ddod i gysylltiad â'r sylwedd am beth amser i gael eu heffeithio.
Yn ôl Cyngor Môn gallai'r gwaith trwsio gynnwys tynnu pridd o erddi neu roi pafin dros rannau sydd wedi eu heffeithio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017