£3.4m i wella Parciau Cenedlaethol Cymru

  • Cyhoeddwyd
EryriFfynhonnell y llun, J.Scott/Geograph

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, wedi neilltuo £3.4m i gynnal gwelliannau yn nhri Pharc Cenedlaethol a phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal amrywiaeth eang o brosiectau gan gynnwys gwella mynediad at dir agored, hybu cadwraeth ac adfywio rhai o'r ardaloedd mwyaf bregus.

Yn gynharach yn y mis fe wnaeth y gweinidog ymrwymo i warchod ardaloedd dynodedig Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn AC: "Fe wnes i ailddatgan fy ymrwymiad i'r tirweddau dynodedig mewn datganiad yn y Senedd ar ddechrau'r mis. Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf pellach o'n hymrwymiad i'n Parciau Cenedlaethol ac AHNE.

"Bydd yr arian yn helpu'r tirweddau dynodedig i barhau i ddarparu ecosystemau cyfoethog, cymunedau byrlymus a chryf a chyfleoedd i bobl o bob rhan o Gymru fwynhau'r awyr agored.

Gwefru ceir trydan

Ymhlith y gwelliannau a fydd yn cael eu gwneud fydd darparu mannau gwefru ceir trydan er mwyn cynyddu teithiau cynaliadwy a gwella'r cyfleusterau ailgylchu fel bod pobl yn taflu llai o sbwriel yn y Parciau Cenedlaethol.

Bydd mynediad i bobl ag anableddau a phroblemau symud eraill hefyd yn cael eu gwella.

Ychwanegodd Ms Blythyn: "Bydd yr arian yn ein helpu i gynnal prosiectau fydd yn gwella'r cyfleusterau i ymwelwyr a hefyd i ddiogelu'r amgylchedd yn y tymor hir. Bydd prosiectau i adfer mawnogydd a diogelu cynefinoedd rhag cael eu colli yn ein helpu i daclo'n problemau amgylcheddol mwyaf a chreu ecosystemau amrywiol a chryf yn ein tirweddau dynodedig.

"Mae miliynau o bobl yn ymweld â'n tirweddau dynodedig bob blwyddyn, felly mae'n hanfodol ein bod yn dal i roi'r profiadau gorau iddyn nhw er mwyn eu hannog i ddychwelyd dro ar ôl tro. Rwy'n disgwyl ymlaen at ailymweld â'n Parciau Cenedlaethol a'r AHNE i weld y prosiectau ar waith."