Buddsoddi £320,000 i lanhau Camlas Maldwyn ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Camlas MaldwynFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Glandŵr Cymru yn dweud ei bod hi'n hanfodol fod y gamlas yn cael ei chynnal

Mae cynlluniau wedi'u cyhoeddi i fuddsoddi £320,000 mewn prosiect i lanhau Camlas Maldwyn ym Mhowys.

Bydd gwaith yn cael ei wneud ar reoli tyfiant, atgyweirio a glanhau cyffredinol ar hyd y gamlas.

Y bwriad yw hybu iechyd planhigion ac anifeiliaid prin yr ardal.

Mae'r gamlas, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn enwog am ei harddwch naturiol ac mae rhan helaeth ohoni'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill

Ymysg y creaduriaid sy'n debygol o elwa o'r prosiect mae dyfrgwn a llygod y dŵr, yn ogystal â phlanhigion a phryfaid amrywiol.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery a'i reoli gan Glandŵr Cymru.

Dywedodd Mark Weatherall, rheolwr prosiect Glandŵr Cymru ei bod hi'n "hanfodol bwysig fod y gamlas yn cael ei chynnal gan fod safon y dŵr yn gallu dirywio yn sydyn iawn".

"Wrth greu llwybrau dyfnach a glanach mae modd creu cynefinoedd iach i bysgod, pryfaid a mamaliaid bychain yn ogystal â galluogi'r planhigion i ffynnu," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llygod y dŵr, sydd dan fygythiad, yn un o'r rhywogaethau sy'n debygol o elwa o'r cynllun

Bydd y gwaith yn digwydd ar hyd dwy ran o'r gamlas:

  • Rhwng pont Refail,129 a phont 132, i'r de o Aberriw;

  • Rhwng pont Maerdy, 102 a phont 103 yn Arddlin.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i fynediad y gamlas yn ogystal ag uwchraddio cyffredinol ar hyd bron i bum milltir o'r llwybr.

Cafodd milltir a chwarter o'r gamlas eisoes ei lanhau fis diwethaf ac mae disgwyl i'r gwaith gael ei orffen erbyn diwedd mis Ebrill.