Heddlu'n arestio menyw wedi llofruddiaeth dyn o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
John Jack WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe welwyd John 'Jack' Williams ar gamera cylch cyfyng yn y cyfnod cyn ei farwolaeth

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arestio menyw 31 oed wedi marwolaeth dyn 67 oed yn Abertawe.

Cafwyd hyd i gorff John 'Jack' Williams yn ei gartref yn Ffordd Pentre-chwyth yn y ddinas am tua 12:30 dydd Sadwrn 31 Mawrth.

Fe gafodd y fenyw ei harestio gan swyddogion nos Fawrth, ac mae'n cael ei chadw yn y ddalfa mewn gorsaf heddlu yn Abertawe er mwyn cael ei holi gan dditectifs.

Roedd Mr Williams yn cael ei adnabod yn lleol fel 'Jack,' roedd wedi ymddeol, ac yn byw yn yr ardal ers sawl blwyddyn.

'Datblygiad sylweddol'

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Richard Jones: "Er bod arestio'r fenyw yn ddatblygiad sylweddol yn yr ymchwiliad hwn, rydym yn dal i gynnal ymholiadau helaeth ar draws ardal Abertawe, er mwyn ceisio canfod y rhai sy'n gyfrifol am farwolaeth Mr Williams.

"Bydd pobl ar draws y ddinas yn gweld presenoldeb heddlu ychwanegol wrth i ni barhau â'n hymdrechion i ddal y rhai sy'n gyfrifol.

"Rwy'n apelio ar y gymuned i ddatgelu unrhyw wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd i Mr Williams drwy gysylltu â ni."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion fforensig yn bresennol ddydd Sul

Mae'r heddlu hefyd yn awyddus i siarad gydag unrhyw un wnaeth ymweld â rhif 112 Ffordd Pentre-chwyth rhwng dydd Iau, 29 Mawrth nes cafwyd hyd i gorff Mr Williams am 12:30 ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.

Mae'r heddlu eisiau i unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng yr amseroedd hynny, ac a sylwodd ar unrhyw beth amheus, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.