Treth diodydd melys: Galw am wario ar iechyd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Diodydd

Dylai arian a ddaw o dreth newydd ar ddiodydd melys gael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl elusen.

Dywedodd Dai Williams o Diabetes UK y dylai arian o'r dreth gael ei wario ar daclo salwch sy'n dod yn sgil gormodedd o siwgr.

Y gred yw y bydd Llywodraeth Cymru'n cael £47m ychwanegol dros ddwy flynedd yn sgil gwariant yn Lloegr yn deillio o'r dreth.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi dosbarthu'r arian sydd wedi ei roi iddynt hyd yn hyn.

Ond ym mis Mawrth, awgrymodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai peth o'r arian yn cael ei roi tuag at daclo gordewdra mewn plant.

Beth yw'r dreth?

  • Bydd gwneuthurwyr diodydd yn talu 18c y litr ar ddiodydd sydd a dros 5g o siwgr i bob 100ml;

  • Mae'n codi i 24c os oes dros 8g o siwgr i bob 100ml;

  • Daw i rym ddydd Gwener.

Roedd galwadau am dreth o'r fath fel modd o daclo gordewdra.

Daeth arolwg yn 2016/17 i'r canlyniad bod gordewdra yn waeth yng Nghymru na unrhyw un o wledydd y DU - gyda 59% o oedolion dros eu pwysau, a 23% yn ordew.

Mae nifer o gwmnïau wedi newid eu diodydd mewn ymateb, a bellach mae disgwyl i'r arian sy'n cael ei gasglu o'r dreth fod yn £240m, yn hytrach na'r amcangyfrif gwreiddiol o £520m.

'Gwella iechyd y wlad'

Fe wnaeth Mr Williams ganmol y dreth, gan ddweud y dylai'r arian gael ei "roi i'r Gwasanaeth Iechyd a chefnogi gofal diabetes er enghraifft, neu ei ddefnyddio i leihau gordewdra".

"Rydyn ni'n gwario £1bn ar hyn o bryd yn y GIG yng Nghymru ar diabetes - y rhan fwyaf ar fath dau. Dwi'n meddwl y dylai unrhyw arian fynd tuag at gefnogi hynny."

Cafodd y dreth ei chefnogi gan gadeirydd cangen Cymru o'r Cyngor Meddygol Prydeinig, Dr David Bailey, ond ychwanegodd nad oedd yn ddigon "ar ei phen ei hun".

"Dylai'r arian o'r dreth gael ei fuddsoddi i mewn i'r GIG i helpu gwella iechyd y wlad."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cynllun werth £9.5m yn 2017/18, £21m yn 2018/19 a £26m yn 2019/20.

Fel gyda phob cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae'r swm yn cael ei ychwanegu at gyllideb Cymru - sy'n £15.5bn yn 2018/19 - a bydd gweinidogion Cymru'n penderfynu sut i'w wario.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth, bod ei blaid am weld yr arian yn cael ei roi tuag at "daclo gordewdra ymysg pobl ifanc fel rhan o agenda iechyd ataliol".

Ychwanegodd: "Mae gwella lles cenedlaethau'r dyfodol yn dechrau gyda chymryd camau i annog ffordd iachach o fyw."

'Y dreth yn sur'

Dywedodd llefarydd UKIP Cymru bod y blaid "wedi cefnogi rhoi'r dewis i gwsmeriaid a chyfrifoldeb personol" a bod "y dreth siwgr yn sur, nid melys".

Ym mis Mawrth, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn ystyried defnyddio'r arian i daclo gordewdra, ond ychwanegodd bod y cyllid "gweddol fach" ar gyfer parhau gyda brecwast am ddim mewn ysgolion, clybiau gwyliau a buddsoddi mewn brechu plant.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r dreth: "Rydym yn falch o weld bod y dreth wedi cael effaith yn barod, gyda chwmnïau a chynhyrchwyr yn tynnu siwgr o'u cynnyrch cyn i'r dreth ddod i rym.

"Ochr yn ochr â'r dreth, fe gynyddodd Llywodraeth y DU wariant mewn sawl maes yn Lloegr.

"O ganlyniad, fe wnaethon ni dderbyn cyllid gweddol fach rydyn ni eisoes wedi ei rannu i gyllidebau yn unol â'n blaenoriaethau."