Merch yn mynd i'r Almaen am lawdriniaeth ar y cefn

  • Cyhoeddwyd
Erin Morgan-Ring a Dr Per TrobischFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Erin Morgan-Ring gyda'r llawfeddyg Dr Per Trobisch a fydd yn gyfrifol am y llawdriniaeth

Bydd merch o Gymru yn teithio i'r Almaen ddydd Gwener i gael llawdriniaeth arloesol ar ei chefn.

Nid yw'r driniaeth hon ar gael ar y gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd.

Mae Erin Morgan-Ring, 14 oed, o ardal Y Waun, yng Nghaerdydd, wedi cael diagnosis o scoliosis, sy'n golygu bod ei hasgwrn cefn yn plygu.

Erin yw'r trydydd plentyn o fewn blwyddyn o Gymru i deithio dramor ar gyfer y llawdriniaeth.

Asesu tystiolaeth newydd

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai corff NICE yn asesu unrhyw dystiolaeth newydd sy'n cefnogi'r achos i gyflwyno'r driniaeth cyn y bydd ar gael ar y GIG.

Yn y cyfamser, roedd yn rhaid i deuluoedd y tri o blant godi miloedd o bunnoedd i dalu am y driniaeth.

Y llawdriniaethau mwyaf cyffredin sydd ar gael yn y DU ar gyfer scoliosis yw gosod sgriwiau metel yn yr asgwrn cefn i geisio cywiro'r gwyro.

Ffynhonnell y llun, Ysbyty Spire
Disgrifiad o’r llun,

Llun pelydr-X o gefn Erin

Mae Erin Morgan-Ring yn ymddiddori'n helaeth mewn chwaraeon, ac yn cystadlu'n aml mewn cystadlaethau gymnasteg a rhedeg.

Dywedodd mam Erin, Ceri Morgan, y byddai ei merch yn gorfod rhoi'r gorau i chwaraeon cystadleuol pe bai hi'n dewis triniaeth y GIG, gan fod arbenigwyr yn dweud fod y driniaeth yn cyfyngu ar faint mae'r claf yn gallu symud.

Fe glywodd teulu Erin fod llawdriniaeth arloesol newydd o'r enw Vertebral Body Tethering (VBT) ar gael yn America ac yn Yr Almaen.

1,000 o gleifion

Mae triniaeth VBT yn defnyddio sgriwiau a llinynnau i gywiro'r crymu yn y cefn.

Dim ond 10 mlynedd sydd ers i'r driniaeth newydd fodoli, a dim ond pobl ifanc yn eu harddegau sydd yn gymwys i gael y llawdriniaeth.

Mae tua 1,000 o gleifion wedi cael y driniaeth newydd, ond hyd yma nid yw'r GIG wedi ei gymeradwyo.

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwaraewr Cymru a Real Madrid, Gareth Bale wedi rhoi nwyddau i ocsiwn ar gyfer cronfa i dalu am driniaeth Erin

Dywedodd Ms Morgan ei bod hi wedi sylweddoli nad oedd rhywbeth yn iawn gyda chefn Erin yn ystod gwyliau yn 2016.

"Roedd hi mewn bicini ac fe sylweddolais nad oedd hi'n sefyll yn syth. Pan ddaethom ni'n ôl, fe aethom ni'n syth at y meddyg ac fe gafodd ei chyfeirio at arbenigwr," meddai.

Cefnogaeth enwogion

Fe gafodd Erin ddiagnosis o scoliosis ar ôl i feddygon archwilio lluniau pelydr-X o'i chefn.

Mae teulu Erin wedi bod yn codi arian i sicrhau'r £42,000 sydd ei angen i dalu am y llawdriniaeth, ac mae Sam Warburton, chwaraewr rygbi Cymru a'r pêl-droediwr Gareth Bale, ymhlith enwogion sydd wedi rhoi eitemau ar gyfer ocsiwn i helpu'r teulu i godi arian.

Dywedodd arbenigwr VBT, Dr Per Trobisch, o Ysbyty St Brigida yn Simmerath, Yr Almaen ei fod yn argyhoeddedig y byddai llawdriniaeth VBT yn dod yn rhan o driniaethau sydd ar gael ar y GIG, ond y gallai gymryd ychydig flynyddoedd i gasglu data i gefnogi'r achos.

Ond ychwanegodd nad yw VBT "yn addas ar gyfer pob claf scoliosis".

Yn ôl arbenigwyr mae llai na 10% sydd yn cael y driniaeth yn gweld nad yw hi'n llwyddo.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad yw VBT yn cael ei rhoi fel triniaeth reolaidd gan y GIG. Ond dywedodd y llefarydd y bydd NICE yn asesu unrhyw dystiolaeth newydd a all ddod i'r amlwg sy'n cefnogi'r achos i gyflwyno'r driniaeth.