Cynllun i ddefnyddio cregyn môr mewn deunydd cosmetig
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn gweithio ar gynllun i ddefnyddio cregyn glan-môr mewn deunydd ymolchi cosmetig.
Mae'r tîm wedi bod yn cynnal profion ar gregyn moch môr, sy'n gynnyrch gwastraff cwmni bwyd o Geredigion.
Ar ôl eu melino mae'r cregyn yn sgrafellog, ac felly'n addas i'w defnyddio mewn cynnyrch ymolchi.
Ond mae'r tîm hefyd yn gobeithio bydd profion pellach yn dangos y gallan nhw gael eu defnyddio mewn deunydd cosmetig yn ogystal.
Dywedodd un o'r ymchwilwyr, Chiara Bertelli: "Mae'n gynnyrch naturiol, ac fe fyddai felly yn beth da os fedrwn ni eu defnyddio mewn cynnyrch cosmetig neu lanhau."
Yn flaenorol roedd darnau bach o blastig - microbeads - yn cael eu defnyddio mewn cynnyrch ymolchi a phast dannedd, ond fe wnaeth Llywodraeth y DU eu gwahardd gan ddweud eu bod yn cael effaith ddinistriol ar fywyd môr.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno gwaharddiad tebyg ar 30 Mehefin.
Mae cwmni Quay Fresh and Frozen Foods yng Nghei Newydd, Ceredigion, yn darparu cregyn moch môr o'r 800,000 tunnell y maen nhw'n eu cynhyrchu bob blwyddyn.
Mae'r cregyn yn cael eu melino i bowdwr cyn i wyddonwyr gynnal profion i weld a oes manion o fetelau trwm yn y powdwr - fe fyddai hynny'n atal eu defnyddio ar groen person.
Ychwanegodd Ms Bertelli: "Ry'n ni'n ceisio darganfod os yw cregyn yn cael eu defnyddio mewn deunyddiau gwahanol - hylifau ac ati - ac os ydyn nhw'n ymddwyn yr un fath â microbeads.
"Ry'n ni am weld ateb i'r broblem o blastig yn yr amgylchedd morol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2017