Undeb Unite yn ymchwilio i aelodau am gefnogi ymgyrch
- Cyhoeddwyd
Mae undeb Unite yn ymchwilio aelodau wnaeth ymddangos mewn fideo yn cefnogi ymgyrch Julie Morgan i fod yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru.
Mae BBC Cymru ar ddeall bod tri aelod wedi cael eu cymwysterau undebol wedi'u hatal, sy'n golygu na fyddan nhw'n cael cynrychioli'r undeb fel swyddogion.
Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Mrs Morgan eu bod "wedi synnu" gan y newyddion.
Dywedodd Unite na fydd yr undeb yn gwneud sylw ar unrhyw ymchwiliadau mewnol, ond bod eu haelodau'n rhydd i gefnogi unrhyw ymgeisydd a bod neb wedi'u gwahardd o'r undeb.
Bu Mrs Morgan, AC Gogledd Caerdydd, yn aelod o Unite am 30 mlynedd, ond mae arweinwyr yr undeb yng Nghymru wedi rhoi eu cefnogaeth i'r ymgeisydd arall yn y ras, Carolyn Harris.
Mewn fideo ar gyfer ymgyrch Mrs Morgan, mae aelodau Unite yn egluro eu cefnogaeth iddi hi.
'Diwrnod du'
Mae tri o'r bobl yn y fideo wedi derbyn llythyr gan ysgrifennydd Unite yng Nghymru, Andy Richards, yn eu hysbysu fod yr undeb yn ymchwilio i "honiadau o dor-ymddygiad".
Mae'r cwynion yn erbyn y tri yn dweud bod y fideo wedi defnyddio logo Unite heb ganiatâd, a'i fod yn cynnwys ymosodiad ar bolisi ynni cytbwys Unite - sy'n cyfeirio mae'n debyg at wrthwynebiad yr undeb i ynni niwclear.
Mae'r tri hefyd wedi'u cyhuddo o ganiatáu iddyn nhw'u hunain ymddangos mewn fideo sy'n cael ei ddefnyddio "gan sefydliad allanol sy'n lleisio cefnogaeth gyhoeddus i ymgeisydd mewn etholiad sy'n gwrthwynebu ymgeisydd sy'n cael ei gefnogi gan Unite".
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Mrs Morgan: "Rydym wedi synnu bod yr undeb wedi cymryd y camau yma yn erbyn aelodau o'r undeb oedd yn cefnogi Julie."
Dywedodd un aelod o'r undeb: "Mae hwn yn ddiwrnod du i Unite Cymru ac rwy'n gobeithio bydd y penderfyniad yma'n cael ei wyrdroi."
'Neb wedi'u gwahardd'
Dywedodd llefarydd o Unite na fydd yr undeb yn gwneud sylw ar unrhyw ymchwiliadau mewnol.
"Er bod Unite Cymru yn cefnogi Carolyn Harris ar gyfer dirprwy arweinyddiaeth Llafur Cymru mae ein haelodau, wrth gwrs, yn rhydd i gefnogi a phleidleisio dros unrhyw ymgeisydd y maen nhw'n ei ddewis," meddai.
"Does dim aelod Unite Cymru wedi'u gwahardd o'r undeb mewn cysylltiad â'r mater yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2018