AS Ceidwadol yn 'defnyddio'i awdurdod i fygwth pobl'
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur wedi cyhuddo cyn-AS Ceidwadol o "ddefnyddio ei safle o awdurdod i fygwth pobl gyffredin", yn dilyn ffrae am drydariad.
Ddydd Mawrth fe wnaeth etholwr orfod ymddiheuro a thalu "iawndal sylweddol" wedi iddo gyhuddo cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gam o dwyll etholiadol.
Cafodd Byron Davies ei drechu yn sedd Gŵyr yn etholiad cyffredinol 2017 gan Tonia Antoniazzi o'r Blaid Lafur.
Ond mae Ms Antoniazzi wedi cyhuddo Mr Davies o "rawnwin surion" am geisio erlyn "pobl gyffredin sydd ddim yn cytuno ag e".
'Colli'r sedd'
Yn ystod yr ymgyrch etholiad 2017 fe wnaeth Dan Evans, sydd yn gwneud ffilmiau ac yn rhedeg caffi yn y Mwmbwls ger Abertawe, honni ar Twitter fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i Mr Davies.
Dywedodd Byron Davies fod yr honiad "wedi dylanwadu ar fwriadau pleidleisio".
Mewn neges ar ei gyfrif Twitter yr wythnos hon dywedodd Mr Evans ei fod yn "edifar yn fawr" am y "sylwadau difenwol" a wnaeth am y Ceidwadwr.
"Roeddwn i eisiau iddo golli, ac fe wnes i drydar yn dweud ei fod yn cael ei ymchwilio am dwyll etholiadol," meddai.
Cafodd y mater ei godi yn San Steffan ddydd Mercher, gyda'r prif weinidog Theresa May yn dweud bod Mr Davies wedi colli ei sedd oherwydd y weithred.
"Mae angen i bleidiau gwleidyddol nid yn unig siarad am etholiadau rhydd a theg, mae angen sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu," meddai.
'Ymateb anghymesur'
Mynnodd Ms Antoniazzi fodd bynnag nad oedd y neges wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i ganlyniad yr etholiad, ac y byddai "ymddiheuriad wedi bod yn ddigon".
"Dyw un trydariad, gafodd ei haildrydar dim ond chwe gwaith a'i hoffi dim ond 10 gwaith, ddim yn mynd i fod wedi newid cwrs yr etholiad," meddai.
Ychwanegodd: "Mae bygwth pobl sydd â hawl i ryddid mynegiant, ond sydd heb gefndir yn y gyfraith neu gefnogaeth cyfreithwyr mawr, yn edrych fel ymateb anghymesur i mi."
Yn ogystal â'r ymddiheuriad, mae'n debyg bod Mr Evans wedi gwneud "cyfraniad sylweddol" i elusen o ddewis Mr Davies.
Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru fod ganddo "restr" o bobl eraill oedd wedi gwneud honiadau tebyg.
Ond dywedodd Ms Antoniazzi fod hynny'n awgrymu nad oedd ganddo "unrhyw beth arall i'w gynnig i gymdeithas", a'i fod felly wedi penderfynu "targedu pobl gyffredin sydd ddim yn cytuno ag e".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018