AC Ceidwadol: 'Llywodraeth Cymru'n ysbïo arna i'

  • Cyhoeddwyd
Angela Burns

Mae ffrae dros ymgais Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am gyswllt gafodd AC Plaid Cymru gyda bwrdd iechyd wedi gwaethygu.

Dywedodd yr AC Ceidwadol Angela Burns ei bod yn teimlo fod y llywodraeth wedi "ysbïo" arni wedi iddi weld tystiolaeth eu bod wedi holi am wybodaeth am ACau ac ASau.

Dywedodd Simon Thomas fod Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio cael gafael ar ei gysylltiadau ef gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae'r llywodraeth wedi cael cais am sylw.

Holi am gysylltiadau

Mae Mr Thomas hefyd wedi dweud nad yw honiadau gan y Prif Weinidog Carwyn Jones fod cyn-weinidogion Plaid Cymru wedi gofyn am wybodaeth debyg pan oedden nhw'n rhan o'r llywodraeth yn wir.

Yn gynharach eleni daeth i'r amlwg fod y llywodraeth wedi cael gafael ar wybodaeth am ymdrechion i drefnu cyfarfodydd rhwng Mr Price a Hywel Dda ynglŷn ag aildrefnu gwasanaethau.

Daeth i'r amlwg wedyn nad oedd y wybodaeth yn gywir a bu'n rhaid i'r bwrdd iechyd ymddiheuro.

Dywedodd Ms Burns wrth y Senedd ddydd Mawrth fod newyddiadurwr wedi darganfod, drwy'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fod Llywodraeth Cymru wedi holi am "fwy o wybodaeth am weithgarwch yn ymwneud ag ASau ac ACau eraill".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones ei bod yn "arfer" i wneud ymchwil ar ACau

Roedd hi ei hun wedi ceisio darganfod a oedd y llywodraeth wedi gofyn am gysylltiadau rhyngddi hi a chyrff cyhoeddus, meddai, ond chafodd hi ddim ateb.

Mewn ymateb dywedodd Mr Jones fod gweinidogion Plaid Cymru "wedi gwneud union yr un peth tra'u bod nhw mewn llywodraeth".

"Pan mae aelod yn gofyn cwestiwn, mae'n arfer i wneud ymchwil ar beth mae'r aelod wedi dweud am y peth, ac o bosib pa gysylltiadau maen nhw wedi'i gael er mwyn i weinidogion ateb y cwestiwn yn iawn," meddai'r prif weinidog.

Gwadu'r cyhuddiad hwnnw wnaeth Mr Thomas, oedd yn ymgynghorydd arbennig i Blaid Cymru yn ystod eu cyfnod mewn clymblaid â Llafur rhwng 2007 a 2011.

'Ymosod yn bersonol'

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Ms Burns ei fod yn fater o "onestrwydd" ac "ymddiriedaeth" o fewn y llywodraeth.

"Cefais fy ethol gan fy etholwyr i herio a chraffu, nid er mwyn i'r llywodraeth ysbïo arna i," meddai.

"Mae'n gwneud i chi feddwl, oedd rhywbeth systemig yn digwydd? Beth maen nhw'n ceisio'i guddio?"

Yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog ddydd Mawrth dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price fod Llywodraeth Cymru'n camddefnyddio adnoddau i "dawelu a bygwth beirniaid, gan gynnwys pobl o fewn eich plaid eich hunain".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Price fod Carwyn Jones wedi ymosod arno'n bersonol

Fe wnaeth Mr Jones gyhuddo Mr Price o ddiflannu i'r UDA, gan gyfeirio at gyfnod yr AC yn astudio ym Mhrifysgol Havard yn ystod cyfnod o seibiant o wleidyddiaeth.

Arweiniodd hynny at ffrae danllyd rhwng y prif weinidog a gwleidyddion o'r gwrthbleidiau, gyda'r Llywydd Elin Jones yn gorfod galw am dawelwch sawl gwaith.

Fe wnaeth Mr Price gyhuddo Mr Jones o ymosod arno'n bersonol, ond mynnodd y prif weinidog fod ganddo "pob hawl i ymateb" os oedd rhywun yn ei feirniadu.