80 o athrawon newydd o achos cyllid dosbarthiadau llai
- Cyhoeddwyd
Mae 80 o athrawon newydd wedi cael eu cyllido drwy grantiau i dorri maint dosbarthiadau, er gwaethaf pryder y gallai'r arian fod wedi cael ei ddefnyddio i leddfu pwysau ar gyllidebau ysgolion.
Fe ddaeth y grantiau o gronfa gwerth £36m gafodd ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2017 gan yr ysgrifennydd addysg, Kirsty Williams.
Hyd yn hyn mae £1.3m wedi cael ei ddosbarthu i ysgolion.
Dywedodd Ms Williams y byddai'r polisi yn gwneud "gwahaniaeth mawr" ac yn rhoi "amser i athrawon addysgu a lle i ddisgyblion ddysgu".
Mae'r cyllid, dros gyfnod o bedair blynedd, yn cynnwys £16m i recriwtio athrawon ychwanegol a £20m i adeiladu mwy o ddosbarthiadau.
Dywedodd un undeb athrawon eu bod yn croesawu'r cyllid ond eu bod yn pryderu am y pwysau ar gyllid craidd ysgolion.
'Pwysau anferth'
Yn ôl Malachy Edwards o NAHT Cymru, mae unrhyw grantiau ychwanegol ym maes blynyddoedd cynnar i'w croesawu.
"Ni efo pryderon am y sefyllfa gyda chyllidebau ysgolion yn gyffredinol," meddai.
"Mae llawer o arweinwyr ysgolion yn dweud wrthym ni fel undeb fod 'na bwysau anferth ar gyllidebau ysgolion, a bod hyn yn cael effaith ar beth mae ysgolion yn medru gwneud.
"Felly er y bydden ni'n croesawu'r gronfa yma, ni hefyd efo pryderon y bydd effaith y gronfa yma ddim yn gymaint ag y gallai fod, achos mae'r gronfa yna'n dod mewn i sefyllfa lle mae cyllidebau ysgolion yn barod o dan lawer o bwysau.
"Felly efallai bydd yr effaith yn cael ei wanhau, ond mae'n ddyddiau cynnar."
Mae'r cyllid ar gael ar gyfer ysgolion sydd â dosbarthiadau babanod o 29 neu fwy ac sydd â chyfradd uchel o blant sydd yn gymwys ar gyfer prydau bwyd am ddim, yn cael canlyniadau is na'r cyfartaledd, ag anghenion addysg arbennig, neu sydd ddim yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf.
"Dro ar ôl tro, mae athrawon a rhieni yn dweud wrtha i fod maint dosbarthiadau yn bryder," meddai Ms Williams.
"Dyna pam mai un o'r pethau cyntaf wnes i fel ysgrifennydd cabinet oedd cyhoeddi'r gronfa £36m yma."
Athro ychwanegol
Dywedodd bod ymchwil rhyngwladol yn dangos cysylltiad positif rhwng dosbarthiadau llai a chyrhaeddiad, yn enwedig i'r "disgyblion ieuengaf o gefndiroedd tlotach".
"Fi yw'r cyntaf i gydnabod fod pwysau cyllidol yn y system ond mae'n rhaid i ni ddefnyddio'n hadnoddau mewn ffordd sy'n cael yr effaith mwyaf," meddai.
Mae Ysgol Gynradd Awel y Môr ym Mhort Talbot wedi sicrhau athro ychwanegol ar gyfer eu dosbarth derbyn o fis Medi ymlaen o ganlyniad i'r cyllid.
Dywedodd y pennaeth, Sam Greasley, y byddai'r arian newydd yn cael effaith ar safonau disgyblion.
"Mae cael dosbarthiadau llai yn ein galluogi ni fel athrawon i weithio'n agosach â phlant unigol," meddai.
"Rydyn ni'n gosod disgwyliadau uchel i'r holl ddisgyblion ond yn cydnabod fod disgyblion angen lefelau gwahanol o gymorth, ac mae hynny'n haws i'w ddarparu mewn dosbarthiadau llai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2017