Carwyn Jones yn cyfaddef ei fod wedi taro'i blant ei hun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud wrth gynulleidfa yn Llanelli ei fod wedi taro ei blant pan oedden nhw'n iau.
Mae ei lywodraeth wedi bod yn ymgynghori ar gynlluniau i wahardd taro plant yng Nghymru.
Dywedodd Mr Jones fod angen i gymdeithas "symud yn ei blaen", ond mae ymgyrchwyr wedi dweud fod ei safbwynt yn "ragrithiol".
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Mr Jones yn siarad am ei brofiadau o fod yn dad dros ddegawd yn ôl, a'i bod yn glir bellach bod cosbi plant yn gorfforol yn aneffeithiol.
'Colli tymer'
Mae gweinidogion eisiau cael gwared a'r amddiffyniad o geryddu rhesymol yn y gyfraith ar ymosodiad cyffredin, a bydd ACau yn ystyried y ddeddfwriaeth newydd nes ymlaen eleni.
Maen nhw wedi dweud nad oes lle i daro plant yn y gymdeithas fodern - ond mae ymgyrchwyr wedi dweud y byddai'r newid yn golygu trin rhieni cyffredin fel troseddwyr.
Wrth siarad mewn digwyddiad cyhoeddus 'Cyfarfod Carwyn' yn Llanelli ddydd Iau, dywedodd y prif weinidog: "I fod yn onest gyda chi, pan roedd fy mhlant yn llai nes i eu taro nhw ambell waith.
"Dwi ddim am sefyll yma a dweud unrhyw beth yn wahanol. Dwi ddim am esgus ei fod yn gariadus. Roedd e'n achos o golli tymer, i mi.
"Dwi'n meddwl bod angen symud i ffwrdd o'r ffordd yna o ddisgyblu plant. Mae angen helpu pobl i ddisgyblu plant mewn ffordd sydd ddim yn cynnwys cosbau corfforol."
Ychwanegodd: "Dwi ddim yn derbyn ein bod hi'n angenrheidiol i geryddu plentyn yn gorfforol. Dwi'n dweud hynny fel rhywun oedd yn gwneud hyn pan oedd fy mhlant i'n llai.
"Fe wnaeth yr un peth ddigwydd i mi, ond dyna oedd y norm yn yr 1970au. Dwi'n meddwl bod angen i ni symud 'mlaen fel cymdeithas."
'Rhagrith'
Dywedodd Lowri Turner, o ymgyrch Byddwch yn Rhesymol Cymru sydd yn gwrthwynebu'r gwaharddiad ar daro plant: "Mae'n rhagrithiol i'r prif weinidog bregethu i ni pam ddylai taro plant gael ei anghyfreithloni pan mae'n cyfaddef ei fod e wedi defnyddio'r dull yma o ddisgyblu a'i fod ef ei hun wedi cael ei daro, heb unrhyw effaith niweidiol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Mr Jones wedi bod yn "rhannu ei brofiadau ei hun o fod yn dad i blant ifanc dros ddegawd yn ôl".
"Fel mae'n hymgyrch yn dangos - ac fel ddywedodd y prif weinidog neithiwr - mae'n dealltwriaeth ni o sut i ddisgyblu plant yn llwyddiannus wedi datblygu dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae'n glir bellach fod cosbi plant yn gorfforol yn aneffeithiol ac yn perthyn i'r gorffennol."
Ychwanegodd y llefarydd fod Mr Jones wedi gwneud sylwadau o'r fath "nifer o weithiau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017