Ymadawiad Carwyn Jones 'ddim yn helpu teulu Carl Sargeant'

  • Cyhoeddwyd
Carl a Jack Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Carl Sargeant gyda'i fab Jack, sydd bellach wedi ei olynu fel Aelod Cynulliad

Dyw penderfyniad Carwyn Jones i gamu o'r neilltu ddim yn helpu teulu Carl Sargeant, meddai eu cyfreithiwr wrth BBC Cymru.

Dywedodd Neil Hudgell na fydd "diweddglo" nes i'r ymchwiliad i'r amgylchiadau o gwmpas marwolaeth Mr Sargeant ddod i ben.

Cafodd cyhoeddiad annisgwyl Mr Jones i ddod â'i gyfnod fel prif weinidog i ben ei wneud yng nghynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn.

Daeth hynny bum mis wedi iddo ddiswyddo Mr Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

'Cost ddynol'

Bydd arweinydd Llafur Cymru, Jeremy Corbyn yn annerch y gynhadledd yn Llandudno nes ymlaen ddydd Sul.

Dywedodd Mr Jones, fydd yn camu o'r neilltu wedi naw mlynedd wrth y llyw, ei fod wedi bod drwy "gyfnod tywyll" yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog.

Fe wnaeth e ddiswyddo AC Alun a Glannau Dyfrdwy ym mis Tachwedd yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod.

Mae Mr Jones a'i swyddfa wedi bod dan bwysau sylweddol ers hynny, o deulu Mr Sargeant yn ogystal â gwleidyddion o fewn Llafur a thu hwnt.

Ddydd Gwener fe wnaeth cyfreithwyr ei fab Jack - wnaeth ei olynu fel AC Alun a Glannau Dyfrdwy - ddweud bod y teulu'n rhwystredig gyda'r oedi cyn dechrau ymchwiliad annibynnol i'r ffordd yr aeth Mr Jones ati i ad-drefnu ei gabinet.

Fe wnaethon nhw hefyd gyhuddo ymddygiad Mr Jones o achosi "gofid sylweddol" iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ei araith gyntaf yn y Senedd dywedodd Jack Sargeant ei fod eisiau "cyfiawnder" ar gyfer ei dad

Pan ofynnwyd iddo ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales a oedd penderfyniad Mr Jones i adael yn gymorth i deulu Carl Sargeant, dywedodd Mr Hudgell: "Ddim o gwbl.

"Mae'r teulu'n deall yn iawn beth yw cost ddynol bod mewn swydd gyhoeddus uchel ei phroffil - a'r ffaith y gall fynd adref i'w deulu yn yr hydref, maen nhw'n falch dros y teulu Jones.

"Ond wnawn nhw fyth gau pen y mwdwl nes iddyn nhw gyrraedd pen y daith gydag ymchwiliad Paul Bowen, a'i fod o'n gallu cael mynediad i'r holl ddeunydd a thystion perthnasol, fel eu bod nhw o'r diwedd yn gallu deall y digwyddiadau trasig wnaeth arwain at golli eu tad a'u gŵr."

Galwodd am gyhoeddi adroddiad oedd yn edrych ar a oedd gwybodaeth am ddiswyddo Carl Sargeant wedi ei ollwng o flaen llaw, gan ddweud y byddai modd cuddio enwau petai angen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi'r adroddiad, gan ddweud y gallai tystion fod ofn dod yn eu blaenau yn y dyfodol petaen nhw'n gwybod y galle nhw gael eu hadnabod.

"Fy nealltwriaeth i yw bod yr adroddiad yn mynd i fod yn feirniadol tu hwnt, nid yn unig o'r ffordd y deliwyd gyda rhyddhau gwybodaeth, ond o'r ymchwiliad a sut mae'n cael ei gynnal," meddai Mr Hudgell.