Y Senedd i drafod cynlluniau dadleuol mwd Hinkley
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau dadleuol i symud mwd o'r arfordir ger gorsaf niwclear Hinkley Point i Fae Caerdydd yn cael eu trafod gan y Senedd.
Mae ymgyrchwyr eisiau gohirio'r gwaith tan fod mwy o brofion wedi cael eu gwneud.
Ymatebodd EDF Energy, y cwmni sy'n gyfrifol am y cynllun, gan ddweud fod y feirniadaeth yn "anghywir" ac yn "ceisio peri gofid".
Bydd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn gwneud cais am drafodaeth ac yn creu adroddiad ar y mater.
Mae angen gwaredu tua 300,000 tunnell o fwd o safle Hinkley Point, Gwlad yr Haf, er mwyn gosod system oeri dŵr yn yr orsaf.
Y cynllun presennol yw gwaredu'r mwd mewn safle arbennig ger arfordir de Cymru yn ymyl Caerdydd.
'Diffyg tystiolaeth'
Mae ymgyrchwyr wedi datgan pryder am y posibilrwydd fod mwd o safle Hinkley Point wedi ei lygru.
Cafodd deiseb swyddogol, gyda 7,000 o enwau, ei gyflwyno i'r senedd yn ogystal â deisebau arlein yn casglu hyd at 150,000 o gefnogwyr pellach.
Dywedodd rai ymgyrchwyr fod y profion hyd yma wedi bod yn annigonol a bod yna ddiffyg tystiolaeth ynglŷn ag effaith cerrynt y môr ar y mwd yn dilyn y symudiad.
Mae sawl gwleidydd wedi datgan eu pryder am y cynllun gan gynnwys Neil McEvoy AC a ddywedodd fod y cynllun yn "warthus".
Dywedodd AC Aberconwy Janet Finch-Saunders fod angen "trafodaeth fanwl sydd yn cynnwys pob aelod cynulliad".
Mae'r pwyllgor wedi gofyn i EDF ystyried profion pellach ar y safle, cais sydd yn cael ei wrthwynebu gan EDF.
Dywedai'r cwmni fod y profion yn "ddiangen" a bod "diffyg sail wyddonol ar gyfer profion pellach".
Roedd canlyniadau'r profion cemegol a gafodd eu gwneud ym mis Mawrth yn "dderbyniol ac yn ddiogel" yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn casglu tystiolaeth gan ymgyrchwyr yn ogystal â EDF, CNC a CEFAS sydd wedi bod yn cefnogi'r llywodraeth yn ystod y profion.
Bydd adroddiad nawr yn cael ei greu cyn bod yna drafodaeth lawn yn y Cynulliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd15 Medi 2016