Dim casgliadau ymchwiliad Sargeant cyn i Jones adael?

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carl Sargeant wedi bod yn weinidog yn y cabinet am bron i ddegawd

Mae'n bosib na fydd tystion i'r ymchwiliad i ddiswyddiad Carl Sargeant yn rhoi tystiolaeth tan fis Mehefin neu Fedi, gan greu ansicrwydd a fydd y canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi cyn i Carwyn Jones adael ei swydd.

Mae tystion wedi cael gwybod bod angen cadw unrhyw ddogfennau all fod yn berthnasol i'r ffordd cafodd Mr Sargeant, y cyn-ysgrifennydd cymunedau, ei ddiswyddo o'r cabinet fis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd Mr Jones ei fod am i'r ymchwiliad ddod i ben cyn iddo adael ei swydd, ond bydd Llafur yn dewis arweinydd newydd yn yr hydref.

Cafodd Paul Bowen QC ei benodi i edrych ar amgylchiadau diswyddiad Mr Sargeant, yn dilyn honiadau o "ymddygiad amhriodol" tuag at fenywod.

Bu farw Mr Sargeant bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones wedi dweud y dylai'r ymchwiliad gan Mr Bowen ddechrau cyn gynted ag sy'n bosib

Mae cyfreithiwr yr ymchwiliad wedi ysgrifennu at dystion posib yn dweud y gallai gwrandawiadau ddigwydd rhwng 18-25 Mehefin a 3-28 Medi.

Yn ogystal mae'r rhai sydd wedi derbyn y llythyr wedi cael gwybod bod angen dod o hyd i gynrychiolaeth gyfreithiol "cyn gynted ag sy'n bosib" os ydyn nhw'n awyddus i baratoi datganiad drwy eu cyfreithwyr eu hunain.

Bydd galwad gyhoeddus am dystiolaeth yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr ymchwiliad yn fuan.

Dros y penwythnos cyhoeddodd y prif weinidog y byddai'n camu i lawr yn yr hydref, a'r bwriad yw bod ei olynydd yn dechrau ym mis Rhagfyr.

Yn y gorffennol mae wedi dweud ei fod eisiau i'r ymchwiliadau i ad-drefnu'r cabinet fod wedi eu gorffen cyn iddo roi'r gorau iddi.

Mae teulu Mr Sargeant wedi beirniadu amseriad cychwyn yr ymchwiliad.