Tân Llanelli: Teyrnged i ddyn 'hapus ac afiaethus'

  • Cyhoeddwyd
Marchello CusanoFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Marchello Cusano ei ddarganfod yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanelli

Mae teulu dyn a fu farw mewn tân yng nghanol Llanelli yn gynharach yn y mis wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Marchello Cusano, 35, yn y tân mewn tŷ ar Heol George ar ddydd Mercher, 11 Ebrill.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys lansio ymchwiliad i achos y tân, gan ddweud ar y pryd bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad, ond bellach maen nhw'n dweud bod y tân yn un ddamweiniol.

Dywedodd teulu Mr Cusano y "byddan nhw'n gweld ei eisiau", a'i fod yn "ddyn hapus ac afiaethus oedd yn cael ei garu gan ei deulu a'i ffrindiau".

"Fe fydden ni yn hoffi diolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod yr amser ofnadwy yma. Mae wedi golygu cymaint i'r teulu cyfan."