Dim modd difa llysiau'r dial mewn profion yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r prawf mwyaf o'i fath yn y byd - gafodd ei gynnal yng Nghymru - wedi dod i'r casgliad nad oes modd difa planhigyn llysiau'r dial.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn cynnal y profion ar y planhigyn, sy'n cael ei adnabod fel Japanese Knotweed, mewn safleoedd yn Ffynnon Taf ger Caerdydd ac Abertawe.
Dros gyfnod o bum mlynedd, fe wnaeth y tîm brofi'r 19 prif ddull o reoli'r planhigyn.
Maen nhw'n dweud mai drwy weithio gyda bioleg y planhigyn ei hun y cafwyd y canlyniadau gorau.
Fe ddefnyddiwyd dulliau corfforol, cemegol a dull cyfannol.
'Cwmnïau diegwyddor'
Dywedodd yr Athro Dan Eastwood o'r brifysgol: "Yn y bôn, ry'n ni'n canfod y ffordd orau o ddelio gyda phlanhigion mewnlifol mewn amgylchiadau go iawn, gan ddefnyddio'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio.
"Fe ddechreuon ni ganolbwyntio ar lysiau'r dial mewn cyfnod pan oedd cryn dipyn o hysteria amdano.
"Ar y pryd roedd y rhan fwyaf o'r wybodaeth am y planhigyn yn seiliedig ar chwedl, ac fe arweiniodd hynny at gwmnïau diegwyddor yn cynnig atebion drud ac aneffeithiol.
"Roedd yn anhygoel i ni nad oedd prawf tymor hir o'r dulliau oedd ar gael i reoli llysiau'r dial."
Dywedodd Dr Dan Jones, sydd wedi sefydlu cwmni sy'n edrych ar broblemau gyda phlanhigion trafferthus: "O'r tair blynedd cyntaf o ddata ry'n ni wedi canfod nad yw difa'r planhigyn yn bosib.
"Dros y tymor hir mae gobaith y gallwn symud tuag at hynny drwy ddefnyddio cemegau newydd yr y'n ni wedi edrych arnyn nhw.
"Ond nid cwestiwn o ddifa fyddai hynny ond mater o reoli parhaus a deallus.
"Mae honiadau gan gwmnïau sy'n dweud eu bod yn gallu difa llysiau'r dial drwy ddefnyddio plaladdwyr dros gyfnodau byr wedi cael eu profi i fod yn ffug, yn seiliedig ar ein harbrofion ni.
"Yn fwy na hynny, ry'n ni wedi dangos bod defnyddio'r plaladdwyr anghywir ar yr adeg anghywir o'r flwyddyn yn arwain at fwy o ddefnydd o blaladdwyr gyda sgil-effeithiau amgylcheddol."
Risg
Wrth ddefnyddio'r pedwar prif grŵp o blaladdwyr, fe ddaeth i'r amlwg i'r ymchwilwyr mai'r cemegyn mwyaf effeithiol oedd glyphosate, ond hynny mewn dos isel iawn.
Ychwanegodd Dr Jones: "Mae problemau o safbwynt risg a materion gwleidyddol am glyphosate.
"Yr hyn a wnaethon ni oedd gweithio gyda bioleg y planhigyn er mwyn defnyddio cyn lleied o blaladdwr â phosib yn ystod y driniaeth.
"Er ein bod yn defnyddio plaladdwr dadleuol o'r safbwynt yna, ry'n ni'n defnyddio llawer llai o hwnnw nag y bydden ni wedi defnyddio o gynnyrch eraill sydd ddim yn gweithio ar lysiau'r dial."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2016