Canser y coluddyn: 'Peidiwch ag anwybyddu'r symptomau'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Fiwmares ar Ynys Môn sy'n dioddef o ganser y coluddyn wedi siarad am ei gyflwr er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r afiechyd.
Yn ôl Bowel Cancer UK, yr afiechyd hwn yw'r pedwerydd math mwyaf cyffredin o ganser a'r ail fath o ganser sy'n lladd y mwyaf yng Nghymru.
Bob blwyddyn, mae dros 2,200 unigolyn yn cael diagnosis o ganser y coluddyn ac mae dros 900 yn marw o'r afiechyd.
Cafodd Merfyn Jones, 62 oed, ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2017 ac mae'n gobeithio gwneud pobl "yn fwy ymwybodol o'r newidiadau yn eu cyrff".
Poen
Dywedodd Mr Jones, sylfaenydd Gŵyl Fwyd boblogaidd Biwmares, ei fod wedi'i ddychryn ar ôl canfod bod ganddo'r afiechyd.
"Dechreuais gael poen yn fy mol, a oedd yn anarferol iawn i mi gan fy mod yn llysieuwr, felly mae fy stumog bob amser yn eithaf da.
"Yn raddol, dechreuodd y boen yn fy mol fynd yn waeth ac yn waeth a dechreuais fynd yn rhwym, felly roeddwn yn teimlo bod yn rhaid i mi fynd i weld fy meddyg teulu."
Ar ôl cael ei yrru i Ysbyty Gwynedd am golonosgopi, cafodd ei gadw ar ôl wedi iddynt ddod o hyd i diwmor.
Dychwelodd Mr Jones i'r ysbyty bedwar diwrnod yn ddiweddarach am lawdriniaeth frys.
Ychwanegodd Mr Jones: "Roedd lleoliad y tiwmor yn ofnadwy o beryglus a phe byddai wedi cael ei adael yno am ychydig hirach, byddai wedi gallu achosi problemau difrifol iawn, felly fe wnaeth y llawdriniaeth achub fy mywyd."
Mae cyflwr presennol canser Mr Jones yn golygu ei fod angen triniaeth bellach.
Ar hyn o bryd mae o dan ofal meddyg ymgynghorol locwm mewn oncoleg feddygol, Dr Claire Fuller, ac mae'n cael cemotherapi ar Ward Alaw.
Dywedodd Dr Fuller: "Mae canser y coluddyn yn afiechyd cymharol gyffredin, hwn yw'r pedwerydd math o ganser sydd fwyaf cyffredin mewn dynion a merched yng Nghymru gydag ychydig dros 2,000 o gleifion yn cael diagnosis o'r afiechyd.
"Gall unigolion fod â symptomau amwys - fel gwaedu o'r pen-ôl, neu weithiau mae newid ym mhatrymau'r coluddyn fel gorfod mynd i'r toiled yn fwy aml neu gael carthion llacach. Gall y gwrthwyneb gynnwys rhwymedd neu gymysgedd o'r ddau symptom.
Eglurai Dr Fuller fod y canser yn fwy cyffredin yn y boblogaeth hŷn ond gallwch ei weld ar unrhyw oed.
Ychwanegodd Dr Fuller: "Yr hyn sy'n bwysig i'w gofio yw bod modd trin canser y coluddyn, gorau po gyntaf mae'r canser yn cael ei ganfod gorau oll; mae'n haws i'w drin a bydd gennych well siawns o wella."
Mae Mr Jones, sy'n cefnogi mis ymwybyddiaeth canser y coluddyn yn ystod Ebrill, yn gobeithio y bydd ei stori yn annog eraill i fod yn ymwybodol o arwyddion yr afiechyd.
Dywedodd Mr Jones "Alla' i ddim cofio'r tro diwethaf i mi fynd at y meddyg, dw i erioed wedi cymryd unrhyw dabledi ar gyfer unrhyw beth, dw i ddim yn yfed, dw i ddim yn ysmygu a dw i'n actif iawn hefyd, felly nid oeddwn erioed yn meddwl y byddai hyn yn gallu digwydd i mi.
Ychwanegodd: "Roedd yn deimlad rhyfedd pan ges i ddiagnosis, roedd gen i ofn ond roedd hynny fwy dros fy nheulu na drosta' i fy hun.
"Dw i'n gobeithio wrth rannu fy stori y bydd yn gwneud eraill yn fwy ymwybodol o'r newidiadau yn eu cyrff - roedd cael poen yn fy mol yn rhyfedd i mi, roedd yn fath o boen nad oedd yn diflannu felly roeddwn yn gwybod bod rhywbeth o'i le - allwch chi ddim anwybyddu'r pethau hyn, mae angen i chi fynd at eich meddyg teulu a gwneud rhywbeth amdano."
Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.bowelcanceruk.org.uk, dolen allanol
Am fwy o wybodaeth am Sgrinio'r Coluddyn ewch i www.bowelscreening.wales.nhs.uk, dolen allanol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018