£1.4m o arian Ewropeaidd i hybu sgiliau gweithgynhyrchu

  • Cyhoeddwyd
Technoleg

Fe fydd £1.4m yn ychwanegol o arian Ewropeaidd yn mynd at wella sgiliau cannoedd o weithwyr o fewn y sector gweithgynhyrchu uwch.

Mae'r arian yn hwb i'r prosiect METal sy'n cael ei arwain gan Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ac sy'n ceisio sicrhau bod y sector mor gynhyrchiol ac effeithiol â phosib.

Bydd hefyd yn cefnogi 60 o gwmnïau ychwanegol yn y gogledd, y gorllewin a chymoedd y de,

Y gobaith yw y gallai economi Cymru gystadlu'n fyd-eang o ganlyniad datblygu'r math o sgiliau sydd eu hangen o fewn sector sy'n cael ei weld fel un sy'n tyfu.

Mae'r term gweithgynhyrchu uwch yn cyfeirio ar wella sgiliau technegol a lefel perfformiad sectorau newydd a datblygol, fel y sectorau ynni, gweithgynhyrchu clyfar a pheirianneg deunyddiau.

Mae'n ceisio gwneud y mwyaf o ddulliau cynhyrchu arloesol a'r dechnoleg ddiweddaraf gan anelu at gylchdroi deunyddiau ac adnoddau am gyn hired â phosib.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe sy'n arwain prosiect METal

O ganlyniad i'r cyllid ychwanegol fe fydd y cynllun METal (Addysg, Hyfforddiant a Dysgu am Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu) yn gallu helpu dros 400 o bobl i ennill sgiliau technegol.

Yn ôl rheolwr y prosiect, Dr Khalil Khan, fe fydd yr arian yn fodd o sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau "i rannu ei gwybodaeth a'i phrofiad er mwyn cefnogi busnesau Cymru.

Ychwanegodd y "bydd y diwydiant yn elwa drwy sicrhau bod ei weithlu yn meddu ar wybodaeth dechnegol gywir i alluogi busnesau Cymru i gystadlu mewn marchnad fyd-eang."

'Sbarduno twf'

Mae gobaith y bydd y cynllun wedi cefnogi dros 800 o bobl erbyn y daw'r cyllid i ben yn 2022.

Wrth gyhoeddi manylion y buddsoddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan weithlu Cymru y sgiliau sydd eu hangen i sbarduno twf a chynhyrchiant.

Ychwanegodd bod y buddsoddiad "yn enghraifft arall o ba mor bwysig ydyw i sicrhau bod Cymru yn cael yr un lefel o gyllid ag yr ydyn ni'n ei gael ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit" er mwyn "sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithwyr TATA Steel wedi elwa o gyrsiau gan y cynllun METal

Un o'r cwmnïau sydd wedi elwa o gynllun METaL yw TATA Steel ym Mhort Talbot.

Dywedodd rheolwr tân ac amgylchedd y safle, Andrew Townsend, bod cyrsiau METal "wedi helpu cydweithwyr i gael gwell dealltwriaeth o agweddau technegol sy'n gysylltiedig â'u gwaith.

"Yn benodol, mae'r cwrs materion amgylcheddol wedi helpu pobl i ddeall deddfwriaeth amgylcheddol a materion amgylcheddol sy'n seiliedig ar sector y farchnad a materion byd-eang a lleol."

"Bydd ein gweithwyr yn elwa gan y bydd ganddyn nhw nawr gwell dealltwriaeth o agweddau amgylcheddol ein busnes. Mae o fantais i'r cwmni gael gweithlu sy'n meddu ar fwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol gan helpu i wella perfformiad amgylcheddol Tata Steel."