Ffrae am ba system i'w ddefnyddio i ethol arweinydd Llafur

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Carwyn Jones yn camu o'i rôl fel arweinydd Llafur Cymru yn yr hydref

Mae rhai o undebau Cymru wedi beirniadu ymdrech i newid y ffordd y bydd arweinydd nesaf Llafur Cymru yn cael eu hethol.

Mae arweinwyr undebau'r GMB, Unsain, USDAW a CWU yn dweud y byddan nhw yn gwrthwynebu unrhyw ymdrech i "dawelu llais" gweithwyr.

Mae Llafur Cymru yn adolygu'r ffordd mae arweinwyr yn cael eu hethol, gyda rhai wedi galw am gefnu ar y system sy'n rhoi'r un pwysau i bleidleisiau undebau, ASau ac ACau, ac aelodau'r blaid.

Bydd Carwyn Jones yn camu o'i rôl fel arweinydd y blaid yng Nghymru, ac fel prif weinidog, yn yr hydref.

Mae rhai aelodau blaenllaw eisiau i Gymru ddefnyddio'r un system â Lloegr a'r Alban, ble mae pob aelod o'r blaid yn cael un pleidlais o'r un cryfder.

Adolygiad mewnol

Yng Nghymru, pleidlais aelodau'r undebau yw traean o gyfanswm y bleidlais, gyda thraean arall yn mynd i ASau ac ACau, a'r traean olaf i aelodau cyffredinol y blaid.

Mae pwysau wedi bod i symud oddi wrth y system yma, yn cynnwys gan yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford - yr unig berson hyd yma sydd wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisydd yn y ras am yr arweinyddiaeth yng Nghymru.

Mae'r undebau'n dweud y dylid cwblhau adolygiad mewnol cyn trafod unrhyw newidiadau.

Dywedodd yr undebau mewn datganiad ar y cyd: "Tra'n bod yn barod i edrych ar bwysau pleidleisiau, dydyn ni ddim yn barod i adael i rai elfennau o'n symudiad i dawelu llais yr undebau llafur yn yr etholiadau arweinyddiaeth sydd o'n blaenau."