Cyhoeddi enw cerddwr fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A48

  • Cyhoeddwyd
cerddwrFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn gafodd ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd ger Casnewydd brynhawn Sul 30 Ebrill.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd yr A48 tua 14:00, ond bu farw'r cerddwr.

Mae'r heddlu bellach wedi cyhoeddi mai John Gee oedd y dyn fu farw. Roedd yn 60 oed ac yn dod o'r Barri.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Roedd John yn bartner, brawd a thad cariadus.

"Roedd yn rhan o deulu mawr a bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei golli'n fawr.

"Gofynnwn am breifatrwydd fel y gallwn alaru am rywun oedd yn annwyl i ni."

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un â gwybodaeth neu luniau dashcam o'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101.