Adrodd straeon menywod 'o flaen yr oes' Llanerchaeron
- Cyhoeddwyd
Bydd hanes menywod ystâd Llanerchaeron oedd "o flaen yr oes mewn sawl ffordd" yn cael ei adrodd am y tro cyntaf y mis hwn.
Fe helpodd y merched, oedd yn weithwyr neu yn berchnogion yr adeiladau, i ddiogelu'r ystâd ac roeddent yn ymladd am faterion sydd dal yn berthnasol heddiw, fel cyflogau cyfartal a chael yr hawl i edrych ar ôl y plant ar ôl i berthynas chwalu.
Mae eu straeon yn rhan o raglen Menywod a Phŵer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n dathlu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl ym mis Chwefror 1918, pan gafodd rhai merched dros 30 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.
Straeon rhai o'r menywod
Ymhlith y menywod sy'n rhan o brofiad Pŵer y Bais mae Eliza Lewis, merch William a Corbetta a oedd yn berchen ar Lanerchaeron. Fe lwyddodd i wahanu o'i gŵr a chadw ei phlant, oedd yn anghyffredin yn y cyfnod yma.
Gweithiwr ffarm oedd Mary Peregrine ond roedd hi'n fam sengl oedd yn gorfod cefnogi ei merch. Er ei bod yn gwneud yr un gwaith â'r dynion roedd y dynion yn cael bron ddwbl ei chyflog.
Cadw'r tŷ oedd Anne Scrimager a hi oedd hefyd oedd yn gyfrifol am y gegin. Fe weithiodd yn yr ystâd am dros 40 mlynedd ond doedd hi ddim yn cael yr un cyflog a'r bwtler oedd yn ddyn.
Fe ddaeth Annie Lewes i fyw yng Nghymru ar ôl priodi'r Capten Thomas Powell Lewes yn 1893. Roedd hi'n fenyw gyfoethog ac fe olygodd ei harian hi bod ei gŵr yn medru bod yn gyfrifol am ystâd Llanerchaeron pan wnaeth o ei etifeddu.
Roedd hi'n un o'r bobl wnaeth ffurfio Cymdeithas Nyrsio Aberaeron a'r ardal, ac roedd yn llywydd ar y gymdeithas tan iddi farw.
Mae un o wirfoddolwyr Llanerchaeron, Helen Williams, wedi creu pais fel symbol o gryfder menywod ac fe fydd ymwelwyr yn cael cyfle i sôn am fenywod sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw gyda'r enwau hynny wedyn yn cael eu gwnïo ar y bais sy'n cael ei harddangos.
Dywedodd Rachael Hedge, Stiward y Tŷ yn Llanerchaeron: "Nid bwriad Pŵer y Bais yw cymharu dynion a menywod, ond tynnu sylw at bŵer ein menywod a weithiodd ar eu pen eu hunain neu gyda'u partneriaid i ofalu am Lanerchaeron dros y cenedlaethau. Er nad oeddent yn berchen ar y tir, heb y menywod hyn a'u cryfder ni fyddai Llanerchaeron yr un peth heddiw."
Yn ôl Liz Girling, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru mae'n bwysig i gofio hanes merched.
'Haeddu cael eu hadrodd'
"Roedd menywod hanesyddol Llanerchaeron o flaen yr oes mewn sawl ffordd, a'u hetifeddiaeth nhw yw'r Llanerchaeron hyfryd y gallwn ei mwynhau heddiw.
"Mae eu straeon amrywiol nhw, a straeon menywod ledled Cymru, yn haeddu cael eu hadrodd a'u dathlu, a dyma'n union y byddwn ni'n ei wneud drwy'r thema Menywod a Phŵer.
"Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi'r cyfle i'n hymwelwyr ystyried y rôl hanfodol y mae menywod yn parhau i'w chwarae mewn cymdeithas drwy ddod â'r straeon hyn, sydd wedi bod ar goll cyn hired, yn fyw."
Bydd Pŵer y Bais yn Llanerchaeron tan ddechrau Hydref gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu. I lansio'r arddangosfa bydd menywod yn cael mynediad am ddim i Lanerchaeron ar Ddiwrnod y Menywod ar 7 Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2012