Côr Ysgol Y Strade yn ffeinal Songs of Praise
- Cyhoeddwyd
Mae Côr Ysgol Y Strade, Llanelli wedi cyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Côr Ifanc y Flwyddyn Songs of Praise 2018 - yr unig gôr o Gymru yn y categori hŷn.
Yr wythnos ddiwethaf clywodd Ysgol Gymraeg Llwyncelyn yn Y Rhondda eu bod nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori iau.
Yr emyn a ddewiswyd gan Ysgol Y Strade oedd 'Prydferth Waredwr' sef cyfieithiad Emlyn Dole o 'Beautiful Saviour' gan Stuart Townend.
Arweinydd y côr yw Christopher Davies, pennaeth cerdd yr ysgol a dywedodd wrth Cymru Fyw: "Roedd yn brofiad bythgofiadwy i bawb gael cystadlu yn erbyn corau gorau Prydain a chynrychioli Cymru yn y categori hwn."
Mae'r côr wedi cael llwyddiant o'r blaen yn y gystadleuaeth hon - yn 2012 daethant yn ail yn y categori uwchradd yng nghystadleuaeth Côr Ysgol y Flwyddyn Songs of Praise.
Cafodd y gystadleuaeth ei ffilmio yng nghanolfan Pontio ym Mangor.
Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu ddydd Sul nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2018