Dadorchuddio cadair a choron Eisteddfod yr Urdd 2018

  • Cyhoeddwyd
Cadair a choronFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Cafodd dwy o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 eu dadorchuddio nos Fercher.

Gwilym Morgan sydd wedi dylunio a chreu'r gadair, sydd wedi ei gwneud o ddarn o bren sy'n 1,000 o flynyddoedd oed.

Mae cadair yr Urdd wedi ei noddi eleni gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Dan Cuthbertson sydd yn gyfrifol am wneuthuriad y goron. Fe gafodd y wobr hon ei dylunio gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt.

'Llafur Cariad'

Wrth sôn am wneuthuriad y gadair, dywedodd Gwilym Morgan: "Tua 15 mlynedd yn ôl, cefais bren ywen hen, hen o felin sy'n fy nghyflenwi â choed. Mae'n wreiddiol o eglwys ger Y Trallwng.

"Mae o wedi cael ei ddyddio, ac mae tua 1,000 o flynyddoedd oed mae'n debyg."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwilym Morgan gyda'r gadair, sy'n cynnwys pren ywen 1,000 o flynyddoedd oed

Bydd y gadair yn cael ei chyflwyno i'r bardd sydd wedi ysgrifennu'r gerdd gaeth neu rydd orau.

Ychwanegodd Gwilym Morgan: "Rydw i wedi ei baru â derw tywyll Cymreig a chredaf fod y gwrthgyferbyniad yn gweithio'n dda.

"Mae'n ddyluniad eithaf syml, sy'n adlewyrchu natur wledig Brycheiniog a Maesyfed. Rwyf wedi mwynhau'r broses, mae wedi bod yn llawer o waith ond yn llafur cariad."

Mae'r goron wedi ei gwneud o gopr, pres, arian a derw. Fe esboniodd Dan Cuthbertson bod y rhan fwyaf ohonynt yn ddeunydd newydd iddo fod yn gweithio â nhw.

Mae gwneuthurwr y goron yn gweithio fel dylunydd i Ganolfan Arloesi Cerebra, sy'n rhan o elusen Cerebra.

Yn ei waith bob dydd, mae'n cynllunio a gwneud offer pwrpasol ar gyfer plant sydd ag anafiadau i'r ymennydd.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Wrth esbonio'r broses o wneud y goron, dywedodd: "Mae'r dyluniad yn adlewyrchu'r ardal, gyda dail derwen a chennin Pedr.

"Mae wedi ei ysgythru gydag enwau lleoedd ym Mrycheiniog a Maesyfed, gyda delwedd adenydd barcud coch ar y cefn ac mae'r holl gyffyrddiadau yn cynrychioli'r ardal."

Mae'r goron yn cael ei rhoi am ysgrifennu'r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau.

"Mae'n ddyluniad hyfryd ac rwy'n teimlo anrhydedd mawr iawn o fod yn gyfrifol am greu coron Eisteddfod yr Urdd," meddai Mr Cuthbertson.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyluniad y goron yn adlewyrchu'r ardal ac yn cynnwys enwau lleodd ym Mrycheiniog a Maesyfed

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cael ei chynnal ar faes y Sioe Amaethyddol rhwng 28 Mai a 2 Mehefin 2018.

Bydd y gadair yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol ar 31 o Fai a'r goron ar ddydd Gwener, 1 Mehefin.