Arian i daclo difrod storm yng Nghaergybi yn 'hwb mawr'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd nifer o gychod eu difrodi gan y tywydd achosodd ddifrod i harbwr Caergybi

Bydd £100,000 i helpu clirio llanast gafodd ei achosi gan Storm Emma ym Marina Caergybi yn "hwb mawr", yn ôl arweinydd yr awdurdod lleol.

Roedd Llinos Medi yn ymateb i gyhoeddiad y prif weinidog o arian i gynorthwyo gyda chostau clirio a sicrhau bod busnesau'n gallu parhau i ddenu twristiaid i'r ardal.

Pan darodd Storm Emma fis Mawrth, cafodd 80 o gychod eu difrodi a pholystyren o lwybrau troed ei wasgaru ar hyd milltiroedd o arfordir Môn.

Cyn ymweld â Chaergybi, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn gobeithio y byddai'r arian yn "dangos i ymwelwyr sy'n ystyried dod yma fod Caergybi yn dal i fod 'ar agor'".

35 tunnell o bolystyren

Fe wnaeth Storm Emma achosi dinistr ym Marina Caergybi, gyda pholystyren oedd yn cynnal y llwybrau troed yno yn dod yn rhydd a lledaenu ar hyd tua 20 milltir o arfordir Ynys Môn.

Roedd pryder am yr effaith ar y diwydiant ymwelwyr, wrth i ddarnau bach o'r polystyren barhau i olchi i'r lan.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Fox
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth polystyren cael ei gludo hyd at 20 milltir o'r marina

Dywedodd Llinos Medi bod glanhau'r polystyren wedi bod yn "her yn ei hun" a bod "oddeutu 35 tunnell o bolystyren wedi cael ei gario" o'r safle.

"'Dan ni gyd yn ymwybodol o'r polystyren sy' mewn beanbag, allwch chi ddychmygu pa mor ysgafn ydy o, felly allwch chi ddychmygu maint sylweddol sy' 'di cael ei gario o 'ma."

Mae'r llywodraeth hefyd yn amcangyfrif bod 3,000 litr o olew wedi eu clirio o'r marina a thraethau agos.

Ychwanegodd Llinos Medi bod y polystyren wedi bod yn dod i'r lan ar draethau'r ynys, a bod delio gyda hynny'n rhywbeth "hollol newydd" i'r cyngor.

"Mae 'na gost ychwanegol, a be' dydan ni ddim yn siŵr iawn ar hyn o bryd ydy pa mor hir mae'r gost yna'n mynd i barhau, achos ar hyn o bryd mae'r polystyren 'ma yng nghrombil y môr, ac mi fydd o'n codi efallai am ddegawdau ar hyd ein traethau ni."

Ychwanegodd bod yr arian yn "newyddion gwych" i'r awdurdod, ar ôl iddyn nhw ymateb i'r digwyddiad heb "gysidro sut i ariannu" hynny.

Wrth i long mordeithio cyntaf y tymor gyrraedd Caergybi ddydd Iau, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "gobeithio y bydd y cyngor yn gallu defnyddio'r cymorth yr wyf i'n ei gyhoeddi heddiw i gefnogi'r busnesau lleol sydd wedi cael eu heffeithio".

Diolchodd i'r "asiantaethau a gwirfoddolwyr [sydd] wedi gweithio'n ddiflino i glirio'r ardal" ac am "yr ymrwymiad a'r agwedd broffesiynol a ddangoswyd gan y rheiny a gymerodd ran yn y gwaith".