Pryder am doriadau posib i swyddi gweithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni a gofalwyr yn pryderu y gallai gweithwyr anabl golli eu swyddi yn sgil newidiadau posib i gynllun lleoliad gwaith sy'n cael ei redeg gan Gyngor Wrecsam.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i 90 o bobl gydag anawsterau dysgu weithio mewn lleoliadau fel caffis sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor.
Mae adolygiad gan y cyngor yn amcangyfrif y byddai cael gwared â'r cynllun yn arbed £460,000 erbyn 2020.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn ymgynghori ar yr adolygiad ond mae un ddynes sy'n gofalu am ei chwaer sydd â syndrom Down yn dweud fod gweithio yn gwneud i'w chwaer "deimlo ei bod hi'n gwneud ei rhan."
Mae Karen Hughes o Holt yn poeni y bydd gweithwyr fel ei chwaer Helen, 41 oed, yn cael trafferth dod i hyd i waith os bydd y cynllun yn dod i ben.
'Ystyried pryderon'
Mae cynllun cyfleodd diwrnod a gwaith yr awdurdod lleol ar hyn o bryd yn cynnig llefydd gwaith mewn gwasanaethau golchdai, profi dyfeisiadau symudol (PAT) a choginio.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, aelod y cabinet gyda chyfrifoldeb am ofal cymdeithasol oedolion, fod yr adolygiad yn rhan o ddogfen drafod Penderfyniadau Anodd 2018-2020 yr awdurdod ynglŷn â thoriadau cyllid.
Ychwanegodd fod pryderon ac ymateb pobl yn cael eu hystyried gan y pwyllgor gwaith cyn y bydd unrhyw benderfyniad yn cael ei wneud.
Mae'r awdurdod eisoes wedi cadarnhau eu bod angen arbed £13m oddi ar eu gwariant dros y ddwy flynedd nesaf.
"Rydym yn cydnabod y pryder mae'r adolygiad ac unrhyw newid posib yn ei achosi i rai unigolion a'u teuluoedd.
Bydd unrhyw benderfyniad sy'n cael ei gymeradwyo yn cael ei drin yn sensitif gyda'r bobl rydym yn eu cefnogi," meddai Ms Lowe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018