Toriadau i wasanaeth cerdd ysgolion Wrecsam gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
chwarae ffidil
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r toriadau yn cynnwys £300,000 i wasanaeth cerdd

Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo cyllideb arfaethedig ar gyfer 2018/2019 a 2019/20, sy'n cynnwys toriadau dadleuol i wasanaeth cerdd ysgolion a chodi tâl parcio i bobl anabl.

Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor llawn fis nesaf.

Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i arbed £52m ers 2008, ond mae'r bwrdd gweithredol eisiau gwneud arbedion pellach o £13m dros y ddwy flynedd nesaf.

'Gwrando'

Dywedodd Mark Pritchard, arweinydd y cyngor, fod y bwrdd gweithredol wedi gwrando ar farn bron i 4,000 o bobl yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Ddydd Mawrth, fe gytunodd aelodau o'r bwrdd i gynyddu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, a chynnydd o 1.48% i gyllid ysgolion.

Disgrifiad,

Cerddorion ifanc yn credu eu bod yn elwa ar wasanaethau cerdd. Adroddiad Dafydd Evans, Newydidon 9.

Yn ôl Mr Pritchard, roedd yr ymgynghoriad hefyd yn awgrymu nad oedd yna wrthwynebiad cryf i'r bwriad i gynyddu treth y cyngor 3.9%.

"Mae pobl Wrecsam yn cefnogi cynnydd o'r fath pe bai yn amddiffyn gwasanaethau," meddai.

Ond dywedodd y cynghorydd Marc Jones o Blaid Cymru fod 16,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu toriadau o £300,000 i wasanaeth cerdd ysgolion.

Dywedodd y dylai'r cyngor yn hytrach fod yn "dathlu sgiliau creadigol", gan ddangos arweiniad drwy dorri nôl ar gostau'r cyngor drwy leihau nifer y bwrdd gweithredol i saith aelod, gwrthod codiadau cyflog eleni a'r flwyddyn nesa', a thalu am iPads eu hunain.

"Dylwn ddangos esiampl," meddai.

Ffynhonnell y llun, Geograph/Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinwyr Cyngor Wrecsam am arbed £13m dros gyfnod o ddwy flynedd

Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar faint y dylai pobl anabl dalu am ddefnyddio meysydd parcio'r cyngor.

Bwriad y cyngor yw codi tâl ar ddeiliad bathodynnau glas, ond gan roi awr yn ychwanegol am ddim.

Fe fydd argymhellion y bwrdd gweithredol yn cael eu trafod gan y cyngor llawn ym mis Chwefror.