Sêr ifanc Steddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i bawb ddechrau yn rhywle... ac i nifer, roedd hynny ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd.

Ffynhonnell y llun, BBC / ITV
Disgrifiad o’r llun,

Cyn i Amber Davies o Ddinbych ddianc i ynys y cariadon, roedd yn eisteddfotwraig brwd. Yn Eisteddfod yr Urdd 2006 yn Rhuthun, enillodd yr Unawd Cerdd Dant 8-10 oed. Unarddeg mlynedd yn ddiweddarach, hi oedd enillydd Love Island ar ITV gyda'i chariad (ar y pryd) Kem - ond am resymau tra gwahanol...

Disgrifiad o’r llun,

Yn Steddfod Llambed 1999, enillodd Fflur Dafydd Y Fedal Lenyddiaeth. Bellach mae hi'n gerddor dawnus ac wedi ennill dwy wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei hysgrifennu - Y Fedal Ryddiaith yn 2006, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am ei nofel Y Llyfrgell. Mae'r nofel wedi cael ei haddasu yn ffilm lwyddiannus, a'i chyfres Parch ar S4C wedi derbyn llawer o ganmoliaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma Robat Arwyn yn perfformio ar faes Eisteddfod yr Wyddgrug yn 1984 yn dilyn llwyddiant ar y llwyfan. Mae ei gyfansoddiadau hyfryd a chofiadwy bellach i'w clywed mewn cyngherddau a chystadlaethau ledled Cymru, gan gorau, grwpiau ac unigolion fel ei gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwynydd chwaraeon BBC Cymru, Catrin Heledd, wastad wedi bod yn un am siarad - ond yn hytrach na chyfweld â chwaraewyr, siarad gyda hi'i hun oedd hi'n ei wneud yn y 2000au. Enillodd y wobr gyntaf am lefaru yn Steddfod 2003 ym Margam.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn i Gerallt Lloyd Owen ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd yn 1965, roedd yn hen law arni, ag yntau wedi ei hennill yn Eisteddfod 1962 hefyd. Aeth ymlaen i ennill Cadair yr Urdd am y trydydd tro, yn 1969, cyn symud ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill dwy Gadair, yn 1975 ac 1982. Roedd yn Feuryn ar Dalwrn y Beirdd am dros 30 mlynedd. Bu farw yn 2014.

Disgrifiad o’r llun,

Yn amlwg, mae Nia Medi, cyflwynydd BBC Radio Cymru, wedi mwynhau perfformio erioed. Dyma hi'n dangos ei doniau adrodd, a'i dillad steilish, yn Steddfod Caerdydd yn 1985.

Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynwyr a chantorion Caryl Parry Jones a Sioned Mair oedd dwy o bump aelod y grŵp pop Sidan, a gafodd ei sefydlu pan oedden nhw'n ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd. Dyma nhw yn perfformio yn ystod Eisteddfod 1974 yn Y Rhyl.

Ffynhonnell y llun, BBC / Shrek
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Steffan Harri am yr Alaw Werin Blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod 2006 yn Rhuthun. Ef bellach yw'r prif gymeriad yn y sioe gerdd Shrek, sydd ar daith o amgylch y DU ac Iwerddon - mae ganddo ffrind bach fflyffi arall bellach, sef Donkey (doedd Mistar Urdd ddim ar gael).

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Betsan Moses Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Abertawe a Lliw yn 1993. Mae hi bellach wedi cael ei phenodi yn Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn cymryd yr awenau yn swyddogol ar ôl Eisteddfod Caerdydd 2018.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Cefin Roberts berfformio yn Llanelli yn yr Eisteddfod yn 1975. Efallai ei fod wedi colli ei wallt, ond dydy ei gariad a'i angerdd tuag at ganu ac actio ddim wedi diflannu, ac mae wedi arwain corau Ysgol Glanaethwy at wobrwyau di-ri', yn genedlaethol ac yn ehangach ym Mhrydain a thramor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Casi Wyn wedi mwynhau perfformio erioed - dyma hi'n ennill yr Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 7-9 yn Eisteddfod Rhuthun yn 2006. Mae ei chaneuon a'i llais arbennig yn golygu ei bod yn cael ei chwarae yn rheolaidd ar y radio ac yn perfformio ar draws y byd, fel yn ngŵyl SXSW yn Texas yn 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Unarddeg mlynedd ar ôl i Aneirin Karadog ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd 2005 yng Nghaerdydd, enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau. Mae'n fardd, cyflwynydd a rapiwr, ac ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2013 a 2015.