Llai o ymchwiliadau heddlu'n arwain at gyhuddiadau
- Cyhoeddwyd
Mae llai o ymchwiliadau heddlu yng Nghymru yn arwain at gyhuddiadau, yn ôl ymchwil gan y BBC.
Mae rhaglen Panorama wedi canfod, rhwng 2014 a 2017, bod gostyngiad o 10% wedi bod yn nifer troseddau sy'n arwain at gyhuddiadau.
Daw hyn er bod cynnydd o 13% wedi bod yn nifer y troseddau gafodd eu cofnodi.
Mae lluoedd heddlu'n dweud bod diffyg adnoddau yn golygu eu bod yn gorfod gwneud penderfyniadau am ba droseddau y maen nhw'n eu herlyn.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud eu bod yn gweithio gyda phenaethiaid lluoedd heddlu i wella nifer yr erlyniadau.
Dros 200,000 o droseddau
Mae nifer y troseddau sy'n cael eu cofnodi yn codi'n rhannol oherwydd bod yr heddlu wedi gwella eu systemau adrodd troseddau.
Ond mae ymchwil Panorama yn dangos, tra bo nifer y troseddau sy'n cael eu cofnodi, bod nifer y bobl sy'n cael eu cyhuddo wedi gostwng.
Ar draws Cymru fe wnaeth nifer y troseddau godi o 181,549 yn 2014 i 205,490 yn 2017, ond fe wnaeth nifer y cyhuddiadau ostwng o 37,359 i 33,679.
Ffigyrau lluoedd Cymru
Dyfed Powys
Rhwng 2014 a 2017 mae nifer y troseddau gafodd eu cofnodi wedi codi 23% i 63,691, ond nifer y cyhuddiadau wedi gostwng 20% i 12,392.
Gwent
Dros yr un cyfnod fe wnaeth nifer y cyhuddiadau ostwng 24%, i 17,547, er bod nifer y troseddau a gofnodwyd wedi codi 12% i 115.138.
Gogledd Cymru
Rhwng 2014 a 2017 fe wnaeth nifer y troseddau gafodd eu cofnodi godi 11% i 116,215, ond fe wnaeth nifer y cyhuddiadau ostwng 10% i 22,871.
De Cymru
Dros yr un cyfnod mae nifer y cyhuddiadau wedi gostwng 2% i 54,023, er bod nifer y troseddau gafodd eu cofnodi wedi codi 12% i 280,417.
Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Gwent, Steve Corcoran bod y llu wedi cyflwyno newidiadau i'w prosesau ymchwilio ym mis Rhagfyr.
"Rydyn ni'n hyderus y bydd y newid yma yn ein galluogi i reoli'r galw cynyddol yn fwy effeithiol tra'n cynyddu nifer yr erlyniadau llwyddiannus," meddai.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod nifer y troseddau sy'n cael eu cofnodi yn ganlyniad i gynnydd yn hyder y cyhoedd wrth adrodd troseddau.
Ychwanegodd llefarydd bod nifer o ffactorau am beidio cyhuddo pobl, a bod y llu wedi gweld cynnydd yn nifer y troseddau sy'n ymwneud ag aelodau teulu neu gymdogion, ble dyw dioddefwyr ddim eisiau cymryd y mater ymhellach.
Panorama: Police Under Pressure, BBC One Wales am 23:05 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017