Pobl yn 'rhwystredig' am barc busnes gwag ger Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon wedi eu codi ynglŷn â pharc busnes gafodd ei adeiladu ar safle hen waith tun yn Abertawe sy'n parhau i fod yn wag.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Dai Lloyd fod £11m wedi ei wario ar Barc Felindre, ond bod trigolion yn rhwystredig nad oedd unrhyw beth yn digwydd yno.
Ychwanegodd yr AC Ceidwadol, Suzy Davies fod angen sicrwydd y byddai modd adfer y buddsoddiad.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod swyddogion wedi bod yn ceisio denu pobl i'r safle.
'Ceisio denu tenantiaid'
Yn 2010 fe gyhoeddwyd y byddai arian o Lywodraeth Cymru ac Ewrop yn cael ei wario ar y safle.
Roedd hynny'n cynnwys ffordd fewnol newydd a darparu trydan, nwy, dŵr, dreiniau, goleuadau a chyswllt band eang cyflym.
Ond codwyd pryderon ar y pryd y byddai'n anodd canfod tenantiaid i'r safle.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher dywedodd Mr Lloyd, AC Gorllewin De Cymru: "Ers diwedd y gweithfeydd dur yn yr ardal, rydyn ni wedi gweld sawl cynllun i ddenu busnes i'r parc lleol yna, ond mae e dal yn wag.
"Mae rhwystredigaeth yn lleol am y datblygiadau yn y parc yma sydd â'r potensial i greu cannoedd o swyddi."
Dywedodd Ms Davies, sydd yn AC dros yr un rhanbarth: "Dwi'n meddwl fod angen rhyw fath o sicrwydd, yn enwedig yn fy ardal i, nad yw hwn yn Kancoat neu Technium arall.
"Dwi'n meddwl fod angen rhywfaint o sicrwydd fod modd adfer y buddsoddiad."
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn siŵr y byddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates eisiau "sicrhau bod enillion go iawn i'r cyhoedd o'r buddsoddiad sydd wedi'i wneud ar y safle".
"Rydyn ni wedi bod yn ceisio denu pobl i'n helpu ni i ddatblygu'r safle," meddai.
Ychwanegodd: "Mae safon y datblygwyr a'r tenantiaid sydd wedi mynegi diddordeb yn y lleoliad yn galonogol, ac mae fy nghydweithiwr Ken Skates yn awyddus i symud ymlaen fel bod modd goresgyn y trafferthion sydd wedi'u hamlygu gan Dr Lloyd."